Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Diwygio) (Cymru) 2004
Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 2 Awst 2004.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhychwantu Cymru a Lloegr ac maent yn gymwys i Gymru.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn —
Cymhwyso Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981: Cymru3.
(1)
Mae effaith adran 27ZA o'r Ddeddf (a fewnosodwyd gan Reoliadau 2004) yn peidio, fel bod y diwygiadau i Ran 1 o'r Ddeddf a wnaed gan reoliadau 3 a 4 o Reoliadau 2004 ac sydd wedi'u cynnwys yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys hefyd i Gymru.
(2)
YR ATODLENDIWYGIADAU I DDEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981
1.
Yn adran 1 (diogelu adar gwyllt, eu nythod a'u hwyau)—
(a)
yn is-adran (3)(a)—
(i)
o flaen “killed”, yr ail dro y mae'n digwydd, mewnosodwch “lawfully”, a
(ii)
hepgorwch “otherwise than in contravention of the relevant provisions”;
(b)
yn is-adran(3)(b)—
(i)
o flaen “sold” mewnosodwch “lawfully”, a
(ii)
hepgorwch “otherwise than in contravention of the relevant provisions”;
(c)
yn is-adran (3) hepgorwch y geiriau o “and”, lle mae'n digwydd gyntaf, hyd at ddiwedd yr is-adran; ac
(ch)
“(3A)
In subsection (3) “lawfully” means without any contravention of—
(a)
this Part and orders made under it;
(b)
the Protection of Birds Acts 1954 to 1967 and orders made under those Acts;
(c)
any other legislation which implements Council Directive 79/409/EEC on the conservation of wild birds and extends to any part of the United Kingdom, to any area designated in accordance with section 1(7) of the Continental Shelf Act 1964, or to any area to which British fishery limits extend in accordance with section 1 of the Fishery Limits Act 1976; ac
(d)
the provisions of the law of any member State (other than the United Kingdom) implementing the Council Directive referred to in paragraph (c).”.
2.
Yn y diffiniad o “wild bird” yn is-adran (1) o adran 27 (dehongli Rhan 1)—
(a)
yn lle “kind” rhowch “species”, a
(b)
yn lle “Great Britain” rhowch “the European territory of any member State”.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“y Ddeddf”), sy'n trosi'n rhannol Gyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar gadwraeth adar gwyllt (O.J. Rhif L103, 25.04.1979, t.1).
Mewnosododd Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwallt 1981 (Lloegr a Chymru) (Diwygio) 2004 (“Rheoliadau 2004”) adran 27ZA newydd yn y Ddeddf a'i heffaith oedd bod y diwygiadau eraill a wnaed gan y Rheoliadau hynny yn gymwys i Loegr yn unig. Yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, mae effaith adran 27ZA o'r Ddeddf yn peidio, a thrwy hynny yn cymhwyso i Gymru y diwygiadau a wnaed gan Reoliadau 2004.
Mae'r diwygiadau hynny, sydd wedi'u nodi yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, yn cynnwys cyfyngiad ar gwmpas yr amddiffyniadau o dan adran 1(3) o'r Ddeddf, ac estyniad i'r diffiniad o “wild bird” yn adran 27 o'r Ddeddf.