12.—(1) Os oes asesiad amgylcheddol yn ofynnol gan unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 2, rhaid i'r awdurdod cyfrifol baratoi adroddiad amgylcheddol, neu sicrhau bod un yn cael ei baratoi, yn unol â pharagraffau (2) a (3) o'r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i'r adroddiad ddynodi, disgrifio a gwerthuso'r effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr amgylchedd—
(a)yn sgil gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen; a
(b)drwy ddewisiadau eraill rhesymol, gan gymryd i ystyriaeth amcanion a sgôp daearyddol y cynllun neu'r rhaglen.
(3) Rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 2 y gall fod angen rhesymol amdani, gan gymryd i ystyriaeth—
(a)yr wybodaeth gyfredol a'r dulliau asesu;
(b)cynnwys a lefel y manylder yn y cynllun neu'r rhaglen;
(c)statws y cynllun neu'r rhaglen yn y broses o wneud penderfyniadau; a
(ch)i ba raddau y mae'n fwy priodol asesu rhai materion ar wahanol lefelau yn y broses honno er mwyn osgoi dyblygu'r asesiad.
(4) Gellir rhoi'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 2 drwy gyfeirio at wybodaeth berthnasol a gafwyd ar lefelau eraill y broses benderfynu neu drwy ddeddfwriaeth arall y Gymuned.
(5) Wrth benderfynu ar sgôp a lefel manylion yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn yr adroddiad, rhaid i'r awdurdod cyfrifol ymgynghori â'r cyrff ymgynghori.
(6) Os bydd corff ymgynghori yn dymuno ymateb i ymgynghoriad o dan baragraff (5), rhaid iddo wneud hynny o fewn y cyfnod o 5 wythnos gan ddechrau ar y dyddiad pan fydd yr ymgynghoriad yn dechrau.