RHAN 3ADRODDIADAU AMGYLCHEDDOL A GWEITHDREFNAU YMGYNGHORI

Paratoi adroddiad amgylcheddol12

1

Os oes asesiad amgylcheddol yn ofynnol gan unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 2, rhaid i'r awdurdod cyfrifol baratoi adroddiad amgylcheddol, neu sicrhau bod un yn cael ei baratoi, yn unol â pharagraffau (2) a (3) o'r rheoliad hwn.

2

Rhaid i'r adroddiad ddynodi, disgrifio a gwerthuso'r effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr amgylchedd—

a

yn sgil gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen; a

b

drwy ddewisiadau eraill rhesymol, gan gymryd i ystyriaeth amcanion a sgôp daearyddol y cynllun neu'r rhaglen.

3

Rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 2 y gall fod angen rhesymol amdani, gan gymryd i ystyriaeth—

a

yr wybodaeth gyfredol a'r dulliau asesu;

b

cynnwys a lefel y manylder yn y cynllun neu'r rhaglen;

c

statws y cynllun neu'r rhaglen yn y broses o wneud penderfyniadau; a

ch

i ba raddau y mae'n fwy priodol asesu rhai materion ar wahanol lefelau yn y broses honno er mwyn osgoi dyblygu'r asesiad.

4

Gellir rhoi'r wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 2 drwy gyfeirio at wybodaeth berthnasol a gafwyd ar lefelau eraill y broses benderfynu neu drwy ddeddfwriaeth arall y Gymuned.

5

Wrth benderfynu ar sgôp a lefel manylion yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn yr adroddiad, rhaid i'r awdurdod cyfrifol ymgynghori â'r cyrff ymgynghori.

6

Os bydd corff ymgynghori yn dymuno ymateb i ymgynghoriad o dan baragraff (5), rhaid iddo wneud hynny o fewn y cyfnod o 5 wythnos gan ddechrau ar y dyddiad pan fydd yr ymgynghoriad yn dechrau.