RHAN 4GWEITHDREFNAU ÔL-FABWYSIADU
Gwybodaeth o ran mabwysiadu cynllun neu raglen16
1
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl mabwysiadu cynllun neu raglen y cyflawnwyd asesiad amgylcheddol ar eu cyfer o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r awdurdod cyfrifol—
a
sicrhau bod copi o'r cynllun a'r adroddiad amgylcheddol sydd gydag ef, ar gael yn ei brif swyddfa i'w archwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl; a
b
cymryd y camau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol i ddwyn i sylw'r cyhoedd—
i
teitl y cynllun neu'r rhaglen;
ii
y dyddiad y mabwysiadwyd hwy;
iii
y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir gweld neu lle gellir cael copi ohonynt, a'r adroddiad amgylcheddol sydd gyda hwy, a chopi o'r datganiad sy'n cynnwys y manylion a bennir ym mharagraff (4);
iv
yr amserau pan ellir archwilio; a
v
y gellir archwilio'n ddi-dâl.
2
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl mabwysiadu cynllun neu raglen—
a
rhaid i'r awdurdod cyfrifol hysbysu—
i
y cyrff ymgynghori;
ii
y personau a oedd, o ran y cynllun neu'r rhaglen, yn ymgynghoreion cyhoeddus at ddibenion rheoliad 13; a
iii
os nad y Cynulliad Cenedlaethol yw'r corff cyfrifol, y Cynulliad Cenedlaethol; a
b
rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol,
am y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).
3
Dyma'r materion—
a
bod y cynllun neu'r rhaglen wedi cael eu mabwysiadu;
b
y dyddiad y mabwysiadwyd hwy; a
c
y cyfeiriad (a all gynnwys gwefan) lle gellir gweld copi neu lle gellir cael copi—
i
o'r cynllun neu'r rhaglen, fel y mabwysiadwyd hwy;
ii
yr adroddiad amgylcheddol sydd gyda hwy; a
iii
datganiad sy'n cynnwys y manylion a bennir ym mharagraff (4),
4
Dyma'r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(iii) a (3)(c)(iii) —
a
sut y cafodd ystyriaethau amgylcheddol eu hintegreiddio i'r cynllun neu'r rhaglen;
b
sut y cymrwyd yr adroddiad amgylcheddol i ystyriaeth;
c
sut y cymrwyd i ystyriaeth y farn a fynegwyd wrth ymateb—
i
i'r gwahoddiad yn rheoliad 13(2)(ch);
ii
y camau a gymrwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn unol â rheoliad 13(4);
ch
sut y cymrwyd i ystyriaeth ganlyniadau unrhyw ymgynghori a wnaed o dan reoliad 14;
d
y rhesymau dros ddewis y cynllun neu'r rhaglen a fabwysiadwyd, yng ngoleuni unrhyw ddewisiadau rhesymol eraill yr ymdriniwyd â hwy; a
dd
y mesurau sydd i'w cymryd i fonitro effeithiau amgylcheddol arwyddocaol gweithredu'r cynllun neu'r rhaglen.
Monitro gweithredu cynlluniau a rhaglenni17
1
Rhaid i'r awdurdod cyfrifol fonitro effeithiau amgylcheddol arwyddocaol gweithredu pob cynllun neu raglen er mwyn canfod effeithiau andwyol na ragwelwyd hwy mewn cyfnod cynnar, a gallu cymryd camau i adfer y sefyllfa pan fydd yn briodol.
2
Gallai trefniadau monitro'r awdurdod cyfrifol gynnwys neu gael eu ffurfio o drefniadau a sefydlwyd heblaw at y diben datganedig o gydymffurfio â pharagraff (1).