2004 Rhif 105 (Cy.12)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) (Diwygio) 2004

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, ac yn gweithredu drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl a Chychwyn1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 26 Ionawr 2004.

Diwygio Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001

2

Diwygir Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 20013 yn unol â rheoliadau 3 i 12 o'r Rheoliadau hyn.

3

Yn rheoliad 1, ar ôl y gair “Chymru” yn yr ail le y mae'n ymddangos, mewnosodir y geiriau “ac mewn perthynas â daliadau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys perthnasol arnynt”.

4

Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (Dehongli) —

a

mewnosodir y diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o “awdurdod archwilio” —

  • ystyr “awdurdod cymwys perthnasol” yw'r awdurdod sy'n gweithredu fel yr awdurdod cymwys perthnasol o fewn ystyr “relevant competent authority” yn Rheoliadau Gweinyddu a Rheoli Integredig 19934;

b

yn y diffiniad o “cais” ar ôl y gair “gymorth” mewnosodir y geiriau “yn unol â rheoliad 3 neu reoliad 5A yn ôl y digwydd a hwnnw'n gais”;

c

yn lle'r diffiniad o “cyfnod penodedig” mewnosodir y diffiniad canlynol —

  • ystyr “cyfnod penodedig” (“specified period”):

    1. i

      o ran cais o dan reoliad 3, yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad derbyn ac sy'n gorffen pan ddaw'r cyfnod o bum mlynedd, o'r dyddiad y daw'r taliad cyntaf yn daladwy arno ar gyfer y parsel organig olaf sy'n destun y cais hwnnw, i ben; neu

    2. ii

      o ran cais o dan reoliad 5A, yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad derbyn ac sy'n gorffen pan ddaw'r cyfnod o bum mlynedd, o'r dyddiad y daw'r taliadau hynny yn daladwy arno ar gyfer y parsel neu'r parseli organig sy'n destun y cais hwnnw, i ben;

ch

yn y diffiniad o “dyddiad derbyn” mewnosodir ar ôl y geiriau “rheoliad 3” y geiriau “neu reoliad 5A yn ôl y diwgydd”;

d

yn y diffiniad o “tystysgrif gofrestru”, yn lle'r gair “pennu'r”, mewnosodir y geiriau “pennu, lle bo'n gymwys, y”.

5

Ar ôl rheoliad 5, mewnosodir y rheoliadau canlynol —

Cymorth Stiwardiaeth Organig5A

1

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau 5B a 5C, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau cymorth blynyddol, a elwir cymorth Stiwardiaeth Organig, ar gyfer parsel organig, i unrhyw berson sy'n fuddiolwr o ran y parsel organig hwnnw, ar yr amod bod y buddiolwr, mewn perthynas ag unrhyw daliad ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol, wedi hawlio taliad ar gyfer y flwyddyn honno yn unol â rheoliad 9 ac wedi darparu unrhyw wybodaeth a thystiolaeth bellach ynglŷn â'r hawliad hwnnw y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfarwyddo i'w darparu.

2

Rhaid gwneud taliadau o dan baragraff 1 i'r ceiswyr hynny sydd yn bodloni'r amodau cymhwyster a nodir yn rheoliad 5B.

3

Rhaid penderfynu cyfradd y taliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1), ac am ba hyd y byddant yn para, yn unol â rheoliad 5C.

4

Bydd rheoliadau 6 i 20 o'r rheoliadau hyn, os yw'n gymwys, yn gymwys i gymorth Stiwardiaeth Organig sy'n daladwy yn unol â pharagraff (1).

Amodau Cymhwyster5B

1

Mae'r amodau cymhwyster y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 5A (2) fel a ganlyn —

i

bod ceiswyr yn gallu bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol, neu y byddant yn gallu ei fodloni erbyn yr amser y mae unrhyw daliad cymorth i fod i gael ei wneud, bod y tir sydd wedi'i gynnwys yn eu cais yn bodloni gofynion paragraff (2);

ii

bod rhaid cyflwyno cais am gymorth Stiwardiaeth Organig ar gyfer nid llai nag un hectar o dir;

iii

mai'r ceisydd, ar ddyddiad cais am gymorth Stiwardiaeth Organig, yw perchennog neu denant y tir sy'n destun y cais a'i fod yn meddiannu'r tir hwnnw yn gyfreithlon;

iv

nad yw'r ceisydd wedi'i anghymhwyso rhag cymryd rhan mewn cynllun amaeth-amgylcheddol naill ai o dan Reoliad y Cyngor 1257/1999 neu o dan Reoliad y Comisiwn;

v

yn achos ceiswyr a oedd gynt yn fuddiolwyr cymorth o dan reoliad 3, y cydymffurfiwyd â'r amodau cymhwyster i gael cymorth o dan y rheoliad hwnnw er bodlonrwydd y Cynulliad Cenedlaethol;

vi

bod y ceisydd yn rhoi'r ymrwymiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) i ategu'r cais.

2

Y gofynion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(i) ynglŷn â'r tir sydd wedi'i gynnwys mewn cais am gymorth Stiwardiaeth Organig yw:

i

bod yr holl dir o'r fath yn hollol organig a'i fod wedi parhau i fod yn hollol organig ers i'r gwaith gwreiddiol o'i drosi gael ei gwblhau; a

ii

bod pob cymorth o'r fath, lle'r oedd proses trosi'r tir hwnnw wedi denu cymorth gynt o dan reoliad 3, wedi dod i ben.

3

Mae'r ymrwymiadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(vi) fel a ganlyn —

i

cyn bod cymorth Stiwardiaeth Organig yn cael ei hawlio ar gyfer unrhyw barsel organig, bod tystysgrif gofrestru ar gyfer y parsel organig hwnnw yn cael ei darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol;

ii

ar gyfer pob parsel organig sydd wedi'i gynnwys mewn cais o dan reoliad 5A(1), bod tystysgrif gofrestru ddilys y parseli hynny a'u statws hollol organig yn cael eu cadw drwy gydol y cyfnod penodedig;

iii

bod y tir sy'n destun y cais yn cael ei ffermio, drwy gydol y cyfnod penodedig, yn unol â'r cynigion sydd wedi'u nodi yn y cais o dan reoliad 5A(1) ac yn unol â safonau UKROFS a'r safonau sydd wedi'u nodi yn Atodlen 2;

iv

bod rhaid sicrhau bod unrhyw dda byw organig neu dda byw sy'n cael eu trosi ac sy'n cael eu cadw ar y tir sydd wedi'i gynnwys mewn cais o dan reoliad 5A(1) yn cael eu cadw, drwy gydol y cyfnod penodedig, yn unol â safonau UKROFS; a

v

os yw'r ceisydd, ar ddyddiad y cais o dan reoliad 5A(1), wedi cyflwyno ffermio organig ar ran o'r daliad ac eithrio'r rhan sy'n destun y cais, ei fod yn sicrhau bod y rhan arall yn cydymffurfio, drwy gydol y cyfnod penodedig, â safonau UKROFS ac yn parhau â ffermio organig ar y rhan arall honno o'r daliad yn unol â safonau UKROFS a'r safonau a nodir yn Atodlen 2.

Penderfynu swm y cymorth Stiwardiaeth Organig a'r cyfnodau y mae cymorth yn cael ei dalu ar eu cyfer5C

1

Ar gyfer pob parsel organig sy'n destun cais o dan reoliad 5A (1) rhaid gwneud taliadau ar gyfer y cyfnod penodedig.

2

Ni chaniateir i gymorth Stiwardiaeth Organig fod yn daladwy ar gyfer cais ar gyfer unrhyw gyfnod cyn y dyddiad derbyn.

3

Caniateir i gais am gymorth Stiwardiaeth Organig gael ei dynnu'n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y ceisydd ar unrhyw adeg cyn bod y cais yn cael ei dderbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol.

4

Rhaid cyfrifo taliadau o dan reoliad 5A(1) yn unol â Rhan 1A o Atodlen 1.

6

Yn rheoliad 6 (Cyfyngiadau ar dderbyn ceisiadau), ym mharagraff 1, ar ôl y gair “cais”, mewnosodir y geiriau canlynol “o dan reoliad 3”.

7

Yn rheoliad 7 (Cyfyngiadau ar dalu cymorth), ym mharagraff (4), ar ôl y gair “cymorth” mewnosodir y geiriau “o dan reoliad 3”.

8

Yn rheoliad 10 (Y pŵer i amrywio ymrwymiadau), ym mharagraff (1), ar ôl y cyfeiriad alffaniwmerig “5(1)(ch)”, mewnosodir y cyfeiriad alffaniwmerig “5B(1)(vi),”.

9

Yn rheoliad 12 (Newid meddiannaeth) —

a

ym mharagraff 3(b), ar ôl y cyfeiriad alffaniwmerig “5(1)(a), (b) ac (c)” mewnosodir y geiriau, a'r cyfeiriad alffaniwmerig “ac yn rheoliad 5B(1)”;

b

ym mharagraff 4, ar ôl y gair “amodau” mewnosodir y geiriau canlynol “, i'r graddau y maent yn yn ymwneud â chymorth sy'n daladwy o dan reoliad 3”;

c

ym mharagraff 6(c), ar ôl y cyfeiriad alffaniwmerig “5(1)(a), (b)(ii) ac (ch)” mewnosodir y geiriau canlynol a'r cyfeiriad alffaniwmerig “ac yn rheoliad 5B(1)(ii), (iv) a (vi)”.

10

Yn rheoliad 16 (Gwrthod ac adennill cymorth, terfynu a gwahardd) —

a

ym mharagraff (1), yn lle'r geiriau “mewn perthynas â'r cynllun hwn” rhoddir y geiriau “o dan y Rheoliadau hyn”;

b

ym mharagraff (2), yn lle'r geiriau “y cynllun hwn” rhoddir y geiriau “y Rheoliadau hyn”.

11

Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (Y Taliad ar gyfer Parsel Organig) —

a

ym mharagraff 1 (tir cymwys CTATA a chnydau parhaol), o fewn y llinellau sydd wedi'u dynodi â'r Rhif olion Rhufeinig “(iv)” a “(v)”, rhaid rhoi'r ffigur “£35” yn lle'r ffigur “£20”;

b

ym mharagraff 2 (Tir wedi'i amgáu), o fewn y llinellau sydd wedi'u dynodi â'r Rhif olion Rhufeinig “(iv)” a “(v)”, rhaid rhoi'r ffigur“£35” yn lle'r ffigur “£15”;

c

ym mharagraff 3 (Tir heb ei amgáu a choetir sy'n cael ei bori), o fewn y llinellau sydd wedi'u dynodi â'r Rhif olion Rhufeinig “(iii)”, “(iv)” a “(v)”, rhaid rhoi'r ffigur “£10” yn lle'r ffigur “£5”;

ch

ar ôl y tabl ym mharagraff 3, rhaid mewnosod y tabl canlynol —

RHAN 1ACymorth Stiwardiaeth Organig Blynyddol ar gyfer Parseli Organig

1

Tir cymwys CTATA a chnydau parhaol

— £35 yr hectar

2

Tir wedi'i amgáu

— £35 yr hectar

3

Tir heb ei amgáu a choetir sy'n cael ei bori

— £10 yr hectar.

d

yn y frawddeg ganlynol, ar ôl y geriau “Yn Rhan 1” ychwanegir “a Rhan 1A”.

12

Yn Atodlen 2:

a

ar ôl y geiriau a'r cyfeiriad alffaniwmerig “rheoliad 5(2)(b)(ii), (iv) a (v)” mewnosodir y geiriau a'r cyfeiriad alffaniwmerig “a rheoliad 5B(3)(iii) a (v)”.

b

rhoddir y paragraff canlynol yn lle paragraff 10 —

10

Rhaid i'r buddiolwr lynu wrth delerau'r Codau Arferion Amaethyddol Da canlynol5:

i

Cod Arferion Amaethyddol Da er Diogelu Aer (1992, (a ddiwygiwyd ym 1998)), a gyhoeddwyd gan Adran Amaethyddiaeth y Swyddfa Gymreig a'r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd 6;

ii

Cod Arferion Amaethyddol Da er Diogelu Dŵ r (1991 (a ddiwygiwyd ym 1998)), a gyhoeddwyd gan Adran Amaethyddiaeth y Swyddfa Gymreig a'r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd 7;

iii

Cod Arferion Amaethyddol Da ar gyfer Diogelu'r Pridd (1992 (a ddiwygiwyd ym 1998)), a gyhoeddwyd gan Adran Amaethyddiaeth y Swyddfa Gymreig a'r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd 8);

iv

Cod Arferion ar gyfer Defnyddio Plaleiddiaid ar Ffermydd a Daliadau (1998), a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Comisiwn Iechyd a Diogelwch9.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199810.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 26 Ionawr 2004, yn diwygio Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001 (“y prif Reoliadau”) yn y fath fodd ag i gyflwyno cymorth ychwanegol, a elwir cymorth Stiwardiaeth Organig (“cymorth Stiwardiaeth”), a fyddai'n daladwy i geiswyr cymwys ar gyfer tir y mae'r gwaith i'w drosi i fod yn dir organig wedi'i gwblhau ond y mae'r ceisydd wedi rhoi ymrwymiad ynglŷn â'r tir hwnnw i barhau i'w ffermio yn organig.

Mae rheoliad 3 yn diwygio'r prif reoliadau yn y fath fodd ag i ddarparu iddynt fod yn gymwys i ddaliadau trawsffiniol sy'n cynnwys tir sydd y tu allan i Gymru.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod darpariaethau yn y prif Reoliadau sydd:

a

yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud taliadau cymorth Stiwardiaeth yn ddarostyngedig i amodau penodedig;

b

yn pennu'r amodau cymhwyster;

c

yn pennu cyfradd y cymorth Stiwardiaeth ac am ba hyd y bydd yn para;

ch

yn darparu bod y darpariaethau gweinyddu a gorfodi yn y prif Reoliadau yn gymwys i Gymorth Stiwardiaeth.

Mae rheoliadau 4, 6, 7, 8, 9, 10 a 12 yn darparu diwygiadau i'r prif Reoliadau sy'n ganlyniad i gyflwyno cymorth Stiwardiaeth ac yn gysylltiedig â hynny.

Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r prif Reoliadau hefyd yn y fath fodd ag i gynyddu'r gyfradd dalu ar gyfer cymorth ffermio organig sy'n daladwy o dan reoliad 3 o'r prif Reoliadau ar gyfer pedwaredd, pumed (ac o ran tir heb ei amgáu a choetir sy'n cael ei bori), trydedd flwyddyn y cais (rheoliad 11(a), (b) ac (c)).

Mae rheoliad 11(ch) yn rhoi i mewn i'r prif Reoliadau ran newydd, (“Rhan 1A”), o Atodlen 1, sy'n nodi'r cyfraddau talu ar gyfer cymorth Stiwardiaeth.

Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ac fe'i hadneuwyd yn Llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Bwyd a Datblygu Amaethyddol, Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.