Taliadau ynghylch atafaelu3
Yn Atodlen 5 o Reoliadau 1992 ac yn Atodlen 3 o Reoliadau 1989:
a
yng ngholofn (2) o'r Tabl i baragraff 1—
i
mewn perthynas â phennawd A (ymweliad pan na wneir atafaeliad), yn lle “£20.00” rhodder “£22.50”, ac yn lle “£15.00” rhodder “£16.50”;
ii
mewn perthynas â phennawd E (meddiant o nwyddau), yn lle “£12.50” rhodder “£14.00” ac yn lle “£10.00” rhodder “£11.00”; a
iii
mewn perthynas â phennawd H (taliad blaenorol etc.), yn lle “£20.00” rhodder “£22.50”; a
b
yn is-baragraff (1) o baragraff 2 (symiau mewn perthynas ag atafaeliad)—
i
ym mharagraff (a), yn lle “£20” rhodder “£22.50”; a
ii
ym mharagraff (b), yn lle “20 per cent” rhodder “22.5 per cent”.