xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Mabwysiadu 1976 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“Deddf 2002”) ac maent yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'n ofynnol bod awdurdodau lleol yn cynnal gwasanaeth mabwysiadu, sy'n gorfod cynnwys gwasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu diffinio yn adran 2 o Ddeddf 2002 fel cwnsela, cyngor a gwybodaeth ac unrhyw wasanaethau eraill a ragnodir gan reoliadau.
Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud ag anghenion teuluoedd mabwysiadol sy'n codi pan fydd plant sydd o dan ofal awdurdodau lleol yn cael eu mabwysiadu. Mae rheoliad 3 yn pennu'r gwasanaethau y mae'n rhaid eu darparu i grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaeth potensial. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol benodi cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu fel pwynt cyswllt canolog i bobl ac i ddarparu cyngor a gwybodaeth am wasanaethau. Mae rheoliad 5 yn nodi pryd mae'n rhaid gwneud asesiad am wasanaethau, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sy'n ystyried lleoli plentyn gyda theulu yn ardal awdurdod lleol arall, ymgynghori â'r awdurdod hwnnw am y lleoliad ac am yr asesiad. Mae rheoliad 6 yn gosod y weithdrefn ar gyfer asesu. Ac eithrio pan fydd cymorth yn cael ei roi ar un achlysur yn unig, mae rheoliad 7 yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdod lleol pan fydd wedi penderfynu darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, i ddarparu cynllun sy'n nodi sut y bydd y gwasanaethau yn cael eu darparu; rhagnodir sut y mae ymgynghori ynghylch y cynllun hwnnw. Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer adolygu gwasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 9 yn dyrannu cyfrifoldeb dros gyllid pan leolir plant dros ffiniau awdurdodau lleol, neu os bydd y teulu mabwysiadol yn symud i fyw wedyn. Mae rheoliadau 10 i 14 yn ymwneud â thalu cymorth ariannol. Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gadw cofnod o gymorth ariannol yng nghofnodion achos y mae'n ofynnol eu cadw o dan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983. Mae rheoliad 16 yn diwygio Rheoliadau Lwfans Mabwysiadu 1991 fel nad ydynt bellach yn gymwys i awdurdodau lleol, ond byddant yn aros mewn grym am y tro o ran asiantaethau mabwysiadu.