2004 Rhif 1011 (Cy.108)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6)(b) a (7), 4(6) a (7)(b) i (i), 139(2) a 142(4) a (5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a pharagraff 3 o Atodlen 4 iddi1 a chan adrannau 9(3), 57A(1) a (3) a 67(5) o Ddeddf Mabwysiadu 19762, a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—