(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau'r Comisiwn Gwella Iechyd a sefydlwyd o dan adran 19 o Ddeddf Iechyd 1999 (“y Comisiwn”).
Mae rheoliadau 2 i 19 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Comisiwn yng Nghymru. Yn benodol, gwnânt ddarpariaeth ar gyfer rhaglen waith flynyddol (rheoliad 2), darparu cyngor neu wybodaeth o ran trefniadau at ddibenion monitro a gwella'r gofal y mae cyrff GIG neu ddarparwyr gwasanaethau iechyd teuluol yn gyfrifol amdano (rheoliadau 3 a 4), gweithredu adolygiadau o drefniadau o'r fath ac adolygiadau o reolaeth, darpariaeth neu ansawdd, neu fynediad i, neu argaeledd, y gofal iechyd y mae cyrff GIG neu ddarparwyr o'r fath yn gyfrifol amdano (rheoliadau 5 i 9), gweithredu ymchwiliadau i reolaeth, darpariaeth neu ansawdd y gofal iechyd y mae cyrff GIG yn gyfrifol amdano (rheoliadau 10 i 15).
Mae rheoliadau 16 i 19 yn gwneud darpariaeth i'r Comisiwn a phersonau a awdurdodir gan y Comisiwn i fynd i mewn i safleoedd perthnasol a chael hyd i ddogfennau, gwybodaeth ac esboniadau. Mae Rheoliadau 20 a 21 yn gwneud darpariaeth ynghylch darparu cymorth i'r Comisiwn Archwilio ac i ymholiadau ynghylch y gwasanaeth iechyd.