Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/22/EC sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid gwyllt mewn sŵau yng Nghymru (O.J. Rhif L094, 9.4.1999, t 24-26) (“y Gyfarwyddeb”). Mewnosododd Rheoliadau Deddf Trwyddedu Sŵau 1981 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2002 (“Rheoliadau 2002”) adran newydd 22A yn y Deddf Trwyddedu Sŵ au 1981 (y “Ddeddf”) a'i heffaith yw bod y diwygiadau eraill yn y rheoliadau hynny yn gymwys i Loegr yn unig. Yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, mae adran 22A yn peidio â bod yn effeithiol, a chan hynny, maent yn cymhwyso'r diwygiadau a wnaed gan Reoliadau 2002 i Gymru.
Disgrifir y diwygiadau i'r Ddeddf yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Dylid darllen y cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan fod swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1981 wedi eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Diwygir adran 1 o'r Ddeddf (trwyddedu sŵau gan awdurdodau lleol) i sicrhau bod y Ddeddf yn gymwys i sŵau sydd ar agor saith niwrnod mewn blwyddyn yn ogystal â sŵ au sydd ar agor am fwy na saith niwrnod mewn blwyddyn.
Mewnosodir adran newydd 1A sy'n gwneud y mesurau cadwraethol yn effeithiol y mae'n ofynnol i sŵau eu mabwysiadu yn rhinwedd erthygl 3 o'r Gyfarwyddeb.
Mae'r Rheoliadau yn diwygio adrannau 5 (cyfnodau ac amodau trwyddedau) a 16 o'r Ddeddf (pŵer i newid trwyddedau) i'w gwneud yn ofynnol bod amodau priodol yn cael eu gosod ar bob trwydded sw sy'n gwneud y mesurau cadwraethol yn effeithiol. Diwygir adran 2 (gwneud cais am drwydded) i'w gwneud yn ofynnol i ymgeisydd am drwydded sw roi i'r awdurdod lleol ei gynigion am weithredu'r mesurau cadwraeth yn y sw. Cyn gosod unrhyw amodau ar drwydded newydd neu wneud newid sylweddol i drwydded gyfredol, mae'n rhaid i'r awdurdod ymgynghori â'r ymgeisydd neu ddeiliad y drwydded ynghylch yr amodau y mae'n cynnig eu gosod, trefnu bod y sw yn cael ei archwilio ac ystyried adroddiad yr archwiliwr. Diwygir adran 4 (rhoi neu wrthod trwydded) i ddarparu bod rhaid i awdurdod wrthod rhoi trwydded os nad yw wedi ei fodloni y byddai'r sw yn gallu cydymffurfio ag amodau'r drwydded sy'n gwneud y mesurau cadwraeth yn effeithiol.
Rhaid i sw gael ei archwilio yn unol ag adran 9A cyn penderfynu ynghylch rhoi, gwrthod, adnewyddu neu newid yn sylweddol ei drwydded. Rhaid i archwilwyr sy'n gwneud archwiliad yn unol ag adran 9A (neu yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 9A, o dan adran 10) ystyried a fydd amodau cyfredol y drwydded, ac unrhyw amodau arfaethedig, yn cael eu bodloni.
Diwygir adran 14 o'r Ddeddf (gollyngiadau ar gyfer sŵau penodol) i sicrhau mai dim ond os na fydd yn niweidiol i amcanion y Gyfarwyddeb a bennir yn erthygl 1 (diogelu anifeiliaid gwyllt a chadwraeth bioamrywiaeth) y ceir rhoi esemptiadau o ofynion y Ddeddf.
Diwygir adran 15 o'r Ddeddf (ffioedd a thaliadau eraill) i alluogi awdurdod i gael costau rhesymol yn ôl gan weithredwr y sw o dan y Ddeddf fel y'i diwygir.
Mae adran 16A yn galluogi awdurdod i gyhoeddi cyfarwyddyd i ddeiliad trwydded sw yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio ag un neu fwy o amodau'r drwydded, ac yn ei gwneud yn ofynnol i wahardd y cyhoedd rhag mynd i'r sw neu i ran ohono am gyfnod.
Mae adran 16B, sy'n disodli adran 17 (dirymu trwydded) yn rhoi'r pŵer i awdurdod i wneud cyfarwyddyd cau sw yn ei gwneud yn ofynnol i sw gael ei gau ac yn dirymu ei drwydded. Rhaid iddo wneud cyfarwyddyd o'r fath os nad yw'r sw wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 16A i gydymffurfio ag amod trwydded sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithredu'r mesurau cadwraeth. Rhaid iddo hefyd wneud cyfarwyddyd cau sw os nad oes modd cael hyd i weithredwr y sw neu os nad yw'r cyhoedd bellach yn cael mynediad i'r sw am saith niwrnod neu fwy mewn blwyddyn. Gellir gwneud cyfarwyddyd cau sw hefyd ar unrhyw un o'r seiliau eraill a fu gynt yn sail am ddirymu trwydded o dan adran 17.
Diwygir adran 16 o'r Ddeddf (pŵer i newid trwyddedau) i alluogi awdurdod i newid trwydded sw i sicrhau bod rhan o sw (yn ôl y diffiniad yn adran 1(2C)) yn cael ei chau yn barhaol os, ar ddiwedd y cyfnod a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 16A sy'n ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio ag amod trwydded sy'n gwneud gweithredu'r mesurau cadwraeth yn ofynnol, bydd rhan o'r sw yn dal i dorri amod y drwydded.
Mae adran 16C yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod (heblaw mewn amgylchiadau penodol) sicrhau bod sw yn cau yn barhaol os yw'n gweithredu heb drwydded yn groes i'r Ddeddf. Mae adran 13(6) yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (heblaw mewn amgylchiadau penodol) sicrhau bod sw y mae awdurdod yn berchen arno ac sy'n gweithredu'r sw heb drwydded, yn groes i'r Ddeddf, yn cau yn barhaol.
Mae adran 16E yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr sw sydd wedi cau i baratoi cynllun o drefniadau arfaethedig ar gyfer gofal yr anifeiliaid yn y dyfodol neu ar gyfer cael gwared arnynt, ac iddo geisio cymeradwyaeth yr awdurdod amdano. Mae'n rhaid i'r trefniadau beidio â bod yn niweidiol i amcanion y Gyfarwyddeb. Ar ôl i'r awdurdod gymeradwyo'r cynllun, mae'n rhaid i'r gweithredwr ei roi ar waith o dan oruchwyliaeth yr awdurdod. Gall awdurdod ofyn am wybodaeth gan weithredwr y sw am y gofal am anifeiliaid mewn sw sydd wedi cau neu am y broses o gael gwared arnynt. Mae adran 11A yn rhoi'r pŵer i'r awdurdod i archwilio sŵau wedi cau o dan amgylchiadau penodol. Os nad yw cynllun a baratowyd o dan adran 16E yn bodloni'r awdurdod, gall yr awdurdod roi cyfarwyddiadau i weithredwr y sw. Mae gan yr awdurdod ddyletswydd weddilliol i wneud ei drefniadau ei hunan ar gyfer gofalu am yr anifeiliaid a gedwir yn y sw neu ar gyfer cael gwared arnynt. Mae adran 16F yn caniatáu i awdurdodau sy'n gweithredu yn unol â threfniadau o'r fath gael gwared ar anifeiliaid a gedwir mewn swau sydd wedi cau mewn amgylchiadau penodol. Mae adran 16G yn rhoi pwerau i awdurdodau fynd ar dir ac i mewn i adeiladau sŵ au sydd wedi cau i archwilio anifeiliaid a'r lleoedd y cedwir hwynt ynddynt, i ofalu am anifeiliaid a mynd ag anifeiliaid oddi yno, os yw'n gwneud trefniadau o'r fath. Mae adran 13(8) a (9) yn gwneud darpariaeth ar gyfer sŵau sydd wedi cau ac y mae awdurdodau yn berchen arnynt. Ar ôl i'r awdurdod roi gwybod ei fod wedi ei fodloni bod trefniadau am ofal yr anifeiliaid yn y dyfodol neu am gael gwared arnynt wedi eu rhoi ar waith mewn sw sydd wedi cau, mae adran 16D(2) yn darparu bod y Ddeddf yn peidio â bod yn gymwys i'r sw.
Diwygir adran 18 o'r Ddeddf (apelau) i gyflwyno amryw o hawliau newydd i apelio i'r llys ynadon sy'n gysylltiedig â swyddogaethau newydd yr awdurdodau. Estynnir hyd y cyfnod ar gyfer dod ag apêl i 28 diwrnod.
Mewnosodir amryw o droseddau i adran 19 o'r Ddeddf (troseddau a chosbau) gan gynnwys troseddau sy'n gysylltiedig â phwerau newydd awdurdodau i orfodi amodau trwydded, a'r darpariaethau newydd i sicrhau lles anifeiliaid mewn sŵau sydd wedi cau. Lefel 3 neu 4 ar y raddfa safonol yw'r cosbau uchaf i'r troseddau hyn.
Mae diwygiadau mân a chanlyniadol i'r Ddeddf.
Mae'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy'n ymwneud â newid trwyddedau cyfredol sŵ au.
Mae Asesiad Rheoliadol o Effaith y Rheoliadau hyn wedi ei baratoi. Ceir copi oddi wrth Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol, CP2, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd. Ceir copi o'r nodyn trawsosod mewn cysylltiad â gweithredu'r Gyfarwyddeb o'r un cyfeiriad.