(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Porthiant 2000 (O.S. 2000/2481, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, a Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999 (S.I. 1999/1872, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

2.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu —

(a)

ail is-baragraff Erthygl 8.2 of Gyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC sy'n pennu'r egwyddorion sy'n llywodraethu trefniadaeth archwiliadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid (OJ Rhif L265, 8.11.95, t.17); a

(b)

Cyfarwyddeb 2001/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC sy'n pennu'r egwyddorion sy'n llywodraethu trefniadaeth archwiliadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid a Chyfarwyddebau 70/524/EC, 96/25/EC a 1999/29/EC ar faeth anifeiliaid (OJ Rhif L234, 1.9.2001, t.55).

3.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliadau'r Gymuned a ganlyn —

(a)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1252/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ychwanegyn newydd mewn porthiant (OJ Rhif L183, 12.7.2002, t.10);

(b)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1876/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ddefnydd newydd o ychwanegyn mewn porthiant (OJ Rhif .L284, 22.10.2002, t.7); ac

(c)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2188/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ddefnyddiau newydd o ychwanegion mewn porthiant (OJ Rhif L333, 10.12.2002, t.5).

4.

Mae'r Rheoliadau hyn —

(a)

yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 drwy —

(i)

mewnosod i reoliad 2 ddiffiniad o'r term “y Gyfarwyddeb Orfodi” (rheoliad 3),

(ii)

gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau 7(1) a 24(1) (rheoliad 4),

(iii)

gosod rhwymedigaeth ar y sawl sy'n gyfrifol am sefydliadau sy'n cynhyrchu cynhyrchion ar gyfer maeth anifeiliaid i hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod lleol perthnasol a rhoi iddynt wybodaeth benodedig, os oes ganddynt dystiolaeth bod porthiant y maent wedi ei fewnforio neu beri ei gylchredeg yn cynnwys sylweddau annymunol penodol ar lefelau sy'n uwch na'r uchafswm a ragnodir (rheoliad 5), a

(iv)

ychwanegu tri rheoliad newydd y Comisiwn i'r rhestr o Reoliadau'r Comisiwn yr awdurdodwyd marchnata ychwanegion porthiant odani ac a gynhwysir yn Rhan IX o'r Tabl i Atodlen 3, ac sy'n gwneud diwygiad canlyniadol i'r troednodyn i Ran VII o'r Tabl hwnnw (rheoliad 6 a'r Atodlen); a

(b)

diwygio Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 drwy wneud diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau penodol (rheoliad 7), a

(c)

gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999 (rheoliad 8).

5.

Paratowyd asesiad o effaith y Rheoliadau hyn ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae copïau ar gael oddi wrth Uned Bwydydd Anifeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EN.