(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd ) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1387 (Cy.136), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2002/3011 (Cy.282) ac O.S. 2002/3239 (Cy.307)) ('y prif Reoliadau') sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu trefnu gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i'r Gymuned o drydydd gwledydd (OJ Rhif . L24, 30.1.98, t.9).
Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliad 12A newydd yn y prif Reoliadau sy'n darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Comisiynwyr y Tollau Tramor a Chartref (“y Comisiynwyr”), unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth Safonau Bwyd gyfnewid gwybodaeth ymysg ei gilydd a rhannu gwybodaeth gydag awdurdodau gorfodi yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.
Mae rheoliad 6 yn gwneud mân newid drafftio i reoliad 13 o'r prif Reoliadau.
Mae rheoliad 7 yn rhoi rheoliad newydd yn lle rheoliad 16 o'r prif Reoliadau. Mae'r rheoliad 16 newydd yn darparu bod y gwaharddiad ar gyflwyno cynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid i Gymru (ac eithrio wrth fannau archwilio ar y ffin) yn cael ei orfodi yn y pwyntiau mynediad gan y Comisiynwyr yn hytrach na chan yr awdurdodau lleol.
Mae rheoliad 8 yn diwygio rheoliad 28 o'r prif Reoliadau i ddarparu y caiff y Comisiynwyr godi tâl am y costau wrth ailddosbarthu neu ddifetha cynnyrch neu lwyth ar y person y cyflwynwyd hysbysiad atafaelu iddo.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.