Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 (“y prif Reoliadau”) sy'n darparu ar gyfer peidio â chodi taliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ar gyfer talu treuliau teithio mewn achosion penodol.

Mae'r rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau i ddarparu bod y rheolau sy'n rheoli talu treuliau teithio i ysbytai yng Nghymru hefyd yn gymwys i dreuliau teithio i borthladdoedd ym Mhrydain Fawr ar gyfer rhywun sy'n teithio i wlad y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig i gael gwasanaethau'r GIG. Mae rheoliad 4 yn mewnosod 3A newydd i'r prif Rheoliadau i ddarparu y bydd gan bob claf y GIG sy'n cael gwasanaethau y tu hwnt i'r Deyrnas Unedig hawl i gael taliadau am yr holl dreuliau teithio (gan gynnwys, mewn rhai achosion, dreuliau teithio cymar) o borthladd ym Mhrydain Fawr i'r man lle y byddant yn cael y gwasanaethau hynny.

Mae rheoliadau 6-8 yn gwneud diwygiadau canlyniadol sy'n darparu ar gyfer hawliadau am daliadau o dan y darpariaethau newydd.

Mae'r diwygiadau a wneir i reoliadau 2,4 a 7 o'r prif Reoliadau hyn yn ychwanegu ceiswyr lloches a'u dibynyddion at y disgrifiad o bobl sydd â'r hawl i beidio â thalu ac i gael taliadau am dreuliau teithio (rheoliadau 2,5 a 7 yn y Rheoliadau hyn).

Mae'r diwygiadau a wneir i reoliadau 2, 5A, 8 ac 8A o'r prif Reoliadau yn darparu ar gyfer gwneud taliadau am dreuliau sy'n deillio o deithio i sefydliadau a reolir gan Fyrddau Iechyd Lleol (rheoliadau 2, 6, 9 a 10 o'r Rheoliadau hyn).

Mae'r diwygiadau a wneir i reoliad 2 yn hepgor y diffiniadau o “amount withdrawn”, “disabled person’s tax credit” a “working families' tax credit”, yn rhoi diffiniad newydd o “family” ac yn mewnosod diffiniadau o “child tax credit”, “disability element”, “gross annual income” a “working tax credit” i mewn i'r prif Reoliadau.

Mae'r diwygiadau yn adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf Credydau Treth 2002 ac yn cynnwys, yn y categorïau o bobl sydd â'r hawl i beidio â thalu ac i gael taliadau llawn o fewn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau, bobl sydd yn aelodau o deuluoedd sy'n cael credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth plant, neu sy'n cael credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio sy'n cynnwys ychwanegiad anabledd, ac sydd ganddynt incwm llai na therfyn penodedig. Yn ogystal, mae teulu sy'n gymwys i gael credyd treth plant ond nad yw'n gymwys i gael credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio hefyd yn cael ei gynnwys o fewn rheoliad newydd 4(2)(q) o'r prif Reoliadau ar yr amod bod ei incwm yn llai na'r un terfyn incwm

Seilir y terfyn incwm ar incwm blynyddol crynswth y teulu (sef yr incwm cyn tynnu treth a chyfraniadau at yswiriant gwladol) a “£14,200” neu'n llai yw'r terfyn ar hyn o bryd (rheoliadau 2 a 5 o'r Rheoliadau hyn).

Mae'r newidiadau a wneir gan y diwygiadau hyn yn disodli'r hawl i beidio â thalu ac i gael taliadau am ffioedd a oedd wedi ei seilio ar gredyd treth i deuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth i bobl anabl.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliadau 7(1)(b) ac 8(4)(a)(i) o'r prif Reoliadau i adlewyrchu'r newidiadau yn y prif Reoliadau sy'n rheoli'r ffioedd am gyffuriau a chyfarpar y GIG sydd wedi eu pennu bellach yn Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 (rheoliadau 7 a 10 o'r Rheoliadau hyn).

Mae rheoliad 12 yn diwygio Tabl A o Atodlen 1 yn y prif Reoliadau i gynyddu'r terfynau cyfalaf a ddefnyddir wrth gyfrifo i ba raddau y ceir peidio â thalu neu y ceir taliadau, o ran pobl sy'n byw yn barhaol mewn sefydliadau gofal preswyl neu gartrefi nyrsio.

Mae rheoliad 13 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1A i'r prif Reoliadau fel na fydd y darpariaethau sy'n rheoli cyfnod dilysrwydd hysbysiad o hawl myfyriwr i beidio â thalu neu i daliadau am ffioedd ond yn berthnasol i fyfyrwyr llawn amser.

Mae rheoliad 14 yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy'n darparu, mewn achosion lle y cafwyd hawl i beidio â thalu neu i gael taliadau yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a hynny ar y sail bod person yn cael credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio neu gredyd treth i bobl anabl neu ei fod yn aelod o deulu person o'r fath, y bydd yr hawl honno yn parhau tan 31 Gorffennaf 2003.