- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
1 Ebrill 2003
Yn dod i rym
2 Ebrill 2003
Adroddodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn Nhachwedd 2002 ar 'Arolwg o'r Siroedd Cadwedig'.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Siroedd Wedi'u Cadw (Newid Ffiniau) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 2 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Diwygir ffiniau'r Siroredd Wedi'u Cadw rhwng Clwyd a Gwynedd, De Morgannwg a Morgannwg Ganol, a Gwent a Morgannwg Ganol fel bod ardaloedd y Siroedd Wedi'u Cadw hynny fel y disgrifir hwy yn Erthygl 3.
3.—(1) Bydd Sir Clwyd Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd a bwrdeistrefi sirol Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Chonwy.
(2) Bydd Sir Gwynedd Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd Ynys Môn a Gwynedd.
(3) Bydd Sir Gwent Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd a bwrdeistrefi sirol Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Tor-faen, Casnewydd a Chaerffili.
(4) Bydd Sir Morgannwg Ganol Wedi'i Chadw yn cynnwys ardaloedd siroedd a bwrdeistrefi sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Tâf.
(5) Bydd Sir De Morgannwg Wedi'i Chadw yn cynnwys sir a bwrdeistrefi sirol Caerdydd a Bro Morgannwg.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Ebrill 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 yn cadw ardaloedd yr wyth Cyngor Sir blaenorol fel “Siroedd Wedi'u Cadw” gan addasu'r ffiniau mewn rhai achosion. Mae'r rhain yn gweithredu at ddibenion cyfyngedig mewn materion megis Arglwydd Raglawiaid a Siryfion.
Adroddodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn ei 'Arolwg o'r Siroedd Cadwedig' (dyddiedig Tachwedd 2002) ac argymhellodd dri newid i ffiniau presennol y Siroedd Wedi'u Cadw, un yng Ngogledd Cymru a'r gweddill yn Ne Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud yr argymhellion hynny'n weithredol heb addasiad.
Addesir ffin y Siroedd Wedi'u Cadw yng Ngogledd Cymru rhwng Gwynedd a Chlwyd i gynnwys y cyfan o Gonwy yn Sir Clwyd Wedi'i Chadw.
Addesir ffiniau y Siroedd Wedi'u Cadw yn Ne Cymru rhwng Morgannwg Ganol a Gwent a Morgannwg Ganol a De Morgannwg fel a ganlyn.
Addesir y ffin rhwng Morgannwg Ganol a Gwent i gynnwys y cyfan o Gaerffili yn Sir Gwent Wedi'i Chadw.
Addesir ffin y Siroedd Wedi'u Cadw rhwng Morgannwg Ganol a De Morgannwg i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan y Gorchymyn i'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Tâf a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn ardal Llanhari a Phenllyn (Gorchymyn Rhondda Cynon Tâf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002 O.S. Rhif 654 (Cy.70)) a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2002.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: