Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Diwygiwyd adran 21 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (p. 29) gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15) trwy amnewid is-adrannau (2A) a (2B). Mae Adran 21 yn darparu ar gyfer llety preswyl a drefnir gan awdurdodau lleol i famau beichiog a mamau sy'n magu a phersonau eraill y mae arnynt, oherwydd eu hoedran, salwch, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill, angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall. Mae'r is-adrannau newydd yn darparu y gall rheoliadau bennu pa adnoddau neu ddarparu ar gyfer penderfynu pa adnoddau y gall yr awdurdod lleol eu diystyru wrth benderfynu at ddibenion adran 21(1)(a) neu (aa) mewn cysylltiad รข pherson pa un a oes ar y person angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddo ef neu iddi hi fel arall ai peidio.

Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o ran yr adnoddau i'w diystyru at y dibenion hynny. Yn ddarostyngedig i un eithriad, dylid diystyru cyfalaf person hyd at derfyn cyfalaf fel y'i pennir yn Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992. Yn yr achos a eithrir, os yw'r person yn rhywun y mae'r awdurdod lleol wedi cytuno gydag ef i lunio cytundeb talu gohiriedig, bydd yr awdurdod lleol hefyd yn diystyru gwerth prif gartref neu unig gartref y person hwnnw.