Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”).

Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol.

Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae rheoliadau 2 a 3 yn diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 1997 i hepgor y diffiniadau o “amount withdrawn”, “disabled person’s tax credit” a “working families tax credit”, rhoi diffinaid newydd yn lle “family” a mewnosod diffiniadau ar gyfer “child tax credit”, “disability element” , “gross annual income” a “working tax credit”.

Mae'r diwygiadau'n adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf Credydau Treth 2002 ac yn cyflwyno i'r categorïau o bersonau sydd â hawl i gael cymorth tuag at y gost o gyflenwi teclynnau optegol (o dan Reoliadau 1997) a chael prawf llygaid o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol (o dan Reoliadau 1986) aelodau o deulu y mae eu hincwm yn disgyn o dan derfyn penodol ac sy'n derbyn credyd treth plant a chredyd treth gwaith, neu gredyd treth gwaith gydag elfen o anabledd. Yn ychwanegol, mae teulu sy'n cael credyd treth plant ond nad oes ganddo hawl i gredyd treth gwaith hefyd yn cael ei gynnwys yn y diffiniad ar yr amod bod ei incwm o fewn yr un terfyn penodedig.

Seilir y terfyn incwm ar incwm blynyddol gros y teulu (h.y. yr incwm cyn didynnu treth a chyfraniadau yswiriant cenedlaethol).

Mae'r newidiadau a wneir gan y diwygiadau hyn yn disodli'r hawl i gael cymorth tuag at y gost o gyflenwi teclynnau optegol a chael prawf llygaid o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol a seiliwyd ar dderbyn credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth i bobl anabl.

Mae rheoliad 4 o'r rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 12A newydd yn Rheoliadau 1997 i ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyhoeddi hysbysiadau hawl wedi'u seilio ar yr hawl o dan y Ddeddf Credydau Treth.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) i gynyddu gwerth taleb optegol a ddyrodwyd tuag at y gost o ailosod lens gyffwrdd unigol, a chynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol.

Mae rheoliad 6(1) yn diwygio Atodlen 1 o Reoliadau 1997 i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod gwydrau a lensys cyffwrdd.

Rheoliad 6(2) yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1997 i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a theclynnau mewn categorïau penodol.

Mae rheoliad 6(3) a'r Atodlen yn amnewid Atodlen 3 newydd yn Rheoliadau 1997 i gynyddu gwerth y talebau a roddir tuag at y gost o drwsio ac ailosod teclynnau optegol.

Tua 2.5%, ar gyfartaledd, yw graddfa'r cynnydd.

Mae rheoliad 7 yn darparu bod y cynnydd yng ngwerthoedd y daleb a wneir gan reoliadau 5 a 6 yn gymwys yn unig i dalebau a dderbynir neu a ddefnyddir ar ôl 1 Ebrill 2003.

Mae rheoliadau 8 a 9 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 2 a 13 o Reoliadau 1986 yn sgil diddymu credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth i bobl anabl a'u disodli gan gredyd treth plant a chredyd treth gwaith Ddeddf Credydau Treth 2002.