Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2003
Enwi, dehongli a chymhwyso1.
(1)
Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2003.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn, cyfeirir at Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 fel y “Ddeddf”.
(3)
Mae'r gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Y diwrnod penodedig2.
1 Ebrill 2003 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
ATODLEN 1DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2003
Darpariaethau'r Ddeddf | Pwnc |
|---|---|
Adran 53 | Diystyru adnoddau wrth benderfynu'r angen am lety preswyl |
Adran 54 i'r graddau na chafodd ei dwyn i rym eisoes gan adran 70(2) | Preswylydd a.y.y.b. yn ariannu llety drutach |
Adran 55 | Pŵer i awdurdodau lleol arwystlo tir yn lle cymryd cyfraniadau |
Y Gorchymyn hwn yw'r pumed Gorchymyn Cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (y “Ddeddf”) mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu mai 1 Ebrill 2003 fydd y diwrnod y mae adrannau canlynol y Ddeddf yn dod i rym yng Nghymru. Mae'r darpariaethau yn caniatáu newidiadau i'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn codi tâl am lety preswyl o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.
Mae adran 53 yn rhoi'r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau i benderfynu pa ran o adnoddau person a gaiff eu diystyru wrth benderfynu a oes angen llety arno neu beidio.
Mae adran 54 yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau sy'n galluogi i daliadau ychwanegol gael eu gwneud, gan neu ar ran preswylydd, ar gyfer llety sy'n costio mwy nag a fyddai awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei dalu.
Mae adran 55 yn caniatáu i awdurdod lleol wneud cytundeb (“cytundeb talu gohiriedig”) â pherson y mae angen llety arno i adael i'r person hwnnw beidio â gwneud taliadau am y llety ond i gronni dyled a gaiff ei sicrhau drwy arwystl ar gartref y person hwnnw.
Y Ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
|---|---|---|
Adran 3 | 1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) | |
Adran 5 | 1 Gorffennaf 2002 | |
Adran 11 | 1 Rhagfyr 2002 | |
Adran 13 | 17 Mawrth 2003 | |
Adran 16 | 26 Awst 2002 | |
Adran 19 — 26 | 1 Gorffennaf 2002 | |
Adran 27 | 26 Awst 2002 | |
Adran 28 — 39 | 1 Gorffennaf 2002 | |
Adran 41 — 43 | 1 Gorffennaf 2002 | |
Adran 49 | 3 Rhagfyr 2001 (yn rhannol) | |
Adran 50(1) | 8 Ebrill 2002 | |
Adran 50 (2) i (10) | 19 Rhagfyr 2001 | |
Adran 51 | 8 Tachwedd 2001 | |
Adran 52 | 8 Tachwedd 2001 | |
Adran 67(1) ac Atodlen 5 | 1 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol) | |
Adran 67(2) ac Atodlen 6 | 1 Ebrill 2002, 15 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol) | |
Atodlen 2 | 1 Gorffennaf 2002 | |
Atodlen 3 | 1 Gorffennaf 2002 |
Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2001/2804 (C.95); O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117); O.S. 2001/3752 (C.122); O.S. 2001/3738 (C.121); O.S. 2001/4149 (C.133); O.S. 2002/1095 (C.26); O.S. 2002/1312 (C.36) ac O.S. 2002/2363 (C.77).