2003 Rhif 918 (Cy.119)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 105, 108, 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Medrau 20001:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.

2

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “deiliad cyfrif dysgu unigol” (“individual learning account holder”) yw person sy'n barti i drefniant ymgymhwyso (fel y'i pennir yn rheoliad 3);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000;

  • ystyr “gweinyddydd cyfrifon dysgu” (“learning account administrator”) yw corff sy'n trefnu addysg a hyfforddiant neu sy'n cynorthwyo i'w darparu ac iddo'r fantais, ar hyn o bryd, o fod wedi'i gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 105(5) o'r Ddeddf at ddibenion y Rheoliadau hyn; ac

  • mae i “person cymwys” (“eligible person”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4.

3

Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, at ddibenion y rheoliadau hyn mae person yn preswylio yng Nghymru os yw'n preswylio yno dros dro neu yn barhaol.

4

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

Dirymu2

Dirymir Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru) 20002.

Trefniadau ymgymhwyso3

At ddibenion adran 105 o'r Ddeddf mae trefniadau yn gymwys o dan yr adran honno mewn perthynas â Chymru —

a

os ydynt ar ffurf cofrestru gan berson cymwys gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu; a

b

os nad yw'r cofrestriad wedi'i ddileu neu wedi'i dynnu'n ôl yn unol â rheoliad 5; ac

c

os y'u hadnabyddir wrth yr enw “Cyfrif Dysgu Unigol Cymru”.

Ystyr Person Cymwys4

1

At ddibenion y Rheoliadau hyn mae person yn berson cymwys os yw'n bodloni'r amodau a geir ym mharagraffau (2) i (5) isod ar y dyddiad cofrestru.

2

Yr amod cyntaf yw bod y person wedi cyrraedd 18 mlwydd oed.

3

Yr ail amod yw bod y person —

a

yn ddinesydd Prydeinig;

b

wedi setlo yn y Deyrnas Unedig o fewn ystyr adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 19713;

c

yn ffoadur, yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers cael ei gydnabod yn ffoadur, neu ei fod yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i ffoadur o'r fath;

ch

yn berson sydd —

i

wedi'i hysbysu gan berson yn gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo aros yn y Deyrnas Unedig er na fernir ei fod yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur;

ii

wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny; a

iii

wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod ers cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros,

neu, ei fod yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath; neu

d

yn berson nad yw'n dod o fewn paragraffau (a) i (ch) ond ei fod yn wladolyn un o aelod-wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig, neu ei fod yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath.

4

Y trydydd amod yw bod y person naill ai —

a

yn preswylio yng Nghymru; neu

b

yn preswylio y tu allan i Gymru dros dro ond yn preswylio fel arfer yng Nghymru (oni bai bod rheoliad 10 yn gymwys).

5

Y pedwerydd amod yw bod y person heb gyrraedd safon cymhwyster addysgol sy'n uwch na Lefel 2 neu ei chyfwerth fel y nodwyd yn y fframwaith cymwysterau cenedlaethol4.

Cofrestru — Cyffredinol5

1

Caiff gweinyddydd cyfrifon dysgu fynnu bod ceisydd am gofrestru yn darparu'r wybodaeth honno neu'r dogfennau hynny y gallai'r gweinyddydd cyfrifon dysgu benderfynu arnynt er mwyn i'r gweinyddydd cyfrifon dysgu benderfynu a yw'r person yn berson cymwys, a chaiff wrthod ystyried cais am gofrestru oni bai bod yr wybodaeth honno neu'r dogfennau hynny yn cael eu darparu.

2

Caiff gweinyddydd cyfrifon dysgu ddileu cofrestriad ar unrhyw adeg —

a

os yw'n ymddangos i'r gweinyddydd cyfrifon dysgu fod unrhyw wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraff (1) yn ffug o ran manylyn perthnasol; neu

b

os yw'r deiliad cyfrif dysgu unigol yn cyrraedd safon cymhwyster addysgol sy'n Lefel 3 neu'n uwch, neu'n ei chyfwerth, fel y nodwyd yn y fframwaith cymwysterau cenedlaethol; neu

c

os nad yw'r deiliad cyfrif dysgu unigol yn preswylio fel arfer yng Nghymru mwyach.

3

Caiff deiliad cyfrif dysgu unigol dynnu ei gofrestriad gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu yn ôl ar unrhyw adeg.

4

Os yw person yn barti i drefniant ymgymhwyso nid yw unrhyw gofrestriad dilynol gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu i ddwyn unrhyw effaith.

Grantiau i ddeiliaid cyfrif dysgu unigol neu mewn perthynas â hwy6

Gall grantiau gael eu talu yn unol â rheoliadau 7 i 9 isod mewn perthynas â deiliaid cyfrif dysgu unigol mewn cysylltiad ag unrhyw addysg neu hyfforddiant y maent yn bwriadu ymgymryd â hwy —

a

os nad yw'r deiliad cyfrif dysgu unigol, adeg talu'r grant, yn cael unrhyw ysgoloriaeth, grant neu lwfans arall sy'n cael eu talu o gronfeydd cyhoeddus mewn perthynas â chost gyfan yr addysg neu'r hyfforddiant o dan sylw; a

b

os yw'r addysg neu'r hyfforddiant yn dod o fewn rheoliad 7; ac

c

os yw'r deiliad cyfrif dysgu unigol, adeg talu'r grant, yn preswylio fel arfer yng Nghymru.

Yr addysg a'r hyfforddiant y gellir talu grant ar eu cyfer7

1

Yr addysg neu'r hyfforddiant y cyfeirir atynt yn rheoliad 6 yw unrhyw addysg neu hyfforddiant, heblaw addysg eithriedig, sydd —

a

o fath a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn unrhyw ffordd y gwêl yn dda; a

b

yn cael eu darparu gan berson sydd wedi ei gymeradwyo gan weinyddydd cyfrifon dysgu ac nad yw ei gymeradwyaeth wedi'i thynnu'n ôl.

2

Yn y rheoliad hwn, “addysg eithriedig” yw —

a

addysg uwchradd (o fewn ystyr “secondary education” yn adran 2 o Ddeddf Addysg 19965); neu

b

unrhyw gategori arall o addysg a bennir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Swm y grant8

Swm y grant y gellir ei dalu i ddeiliad cyfrif dysgu unigol neu mewn perthynas â deiliad cyfrif dysgu unigol yw'r swm a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o bryd i'w gilydd.

Grantiau — darpariaethau atodol9

1

Mae grantiau i gael eu talu ar yr adegau ac yn y rhandaliadau a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (ac yn benodol caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu nad yw grant i gael ei dalu nes bod y deiliad cyfrif dysgu unigol wedi gwneud unrhyw daliad neu wedi sicrhau y telir unrhyw daliad tuag at gostau'r addysg neu'r hyfforddiant fel sy'n angenrheidiol).

2

Mae grantiau i gael eu talu i'r person sy'n darparu'r addysg neu'r hyfforddiant.

3

Caiff grantiau eu talu ar y telerau hynny a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chaiff y telerau hynny gynnwys telerau yn ei gwneud yn ofynnol bod rhan neu'r cyfan o'r grant yn cael ei ad-dalu —

a

gan y person sy'n darparu'r addysg neu'r hyfforddiant —

i

os na chaiff yr addysg neu'r hyfforddiant o dan sylw eu darparu,

ii

os nad yw'r deiliad cyfrif dysgu unigol yn ymgymryd â'r addysg neu'r hyfforddiant, neu

iii

os na chydymffurfir ag unrhyw delerau eraill y talwyd y grant arnynt; neu

b

gan y deiliad cyfrif dysgu unigol —

i

os dilëir ei gofrestriad yn unol â rheoliad 5(2)(a) neu (b) neu os gellir dileu'r cofrestriad adeg talu'r grant yn unol â rheoliad 5(2) neu (b); neu

ii

os yw'n dod i'r amlwg nad oedd yr amodau a gynhwysir yn rheoliad 6(a) neu (c) wedi eu bodloni adeg talu'r grant.

4

Gall grantiau gael eu talu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan weinyddydd cyfrifon dysgu o dan drefniadau a wneir gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac os gwneir trefniadau o'r fath caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru dalu tâl neu symiau i dalu ei gostau i'r gweinyddydd cyfrifon dysgu.

Preswylfa — darpariaethau atodol10

At ddibenion y rheoliadau hyn —

1

penderfynir ar breswylfa aelod o lynges, byddin neu awyrlu y Goron (“aelod o'r lluoedd arfog”) yn unol ag is-baragraffau (a) a (b) —

a

oni bai bod paragraff (b) yn gymwys, ymdrinnir ag aelod o'r lluoedd arfog fel pe bai'n preswylio yn y sefydliad lle mae'n gwasanaethu am y tro,

b

os yw'r aelod o'r lluoedd arfog yn gwasanaethu mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ymdrinnir â'r aelod hwnnw fel pe bai'n preswylio yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig lle bu'n gwasanaethu yn fwyaf diweddar, gan ddiystyru unrhyw sefydliad lle bu'n gwasanaethau am gyfnod o lai na mis;

2

ymdrinnir â charcharor a ddelir dan ddedfryd o fewn y Deyrnas Unedig fel pe bai'n preswylio yng Nghymru os —

a

os yw'r man neu'r sefydliad lle mae'r carcharor wedi'i ddal dan ddedfryd

b

os yw'r man neu'r sefydliad lle mae'r carcharor yn preswylion'n barhaol yng Nghymru yn union cyn dechrau'r ddedfryd.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dirymu Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru) 2000, yn diffinio'r trefniadau ymgymhwyso y cyfeirir atynt yn adran 105 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ac yn darparu ar gyfer talu grantiau i bersonau sy'n ddeiliaid cyfrif dysgu unigol neu mewn perthynas â hwy.

Mae rheoliadau 3 i 5 yn ymdrin â threfniadau ymgymhwyso (sydd i'w hadnabod fel “Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru”). Rhaid i'r trefniadau hyn fod ar ffurf cofrestru gan berson cymwys gyda'r gweinyddydd cyfrifon dysgu sef corff a gymeradwyir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Y corff a gymeradwyir ar hyn o bryd yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant. Mae rheoliad 4 yn nodi amodau cymhwyster sy'n cynnwys preswylio yng Nghymru (neu breswylio dros dro y tu allan i Gymru adeg cofrestru ond preswylio fel arfer yng Nghymru).

Yn rheoliadau 6 i 9 darperir ar gyfer talu grantiau mewn perthynas â deiliaid cyfrif dysgu unigol. Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer y pŵer i dalu grantiau. Mae rheoliad 7 yn darparu y gall grantiau gael eu talu mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru heblaw addysg uwchradd neu unrhyw gategori arall o addysg a eithrir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Yn rheoliad 8 darperir mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n penderfynu swm y grant ac mae rheoliad 9 yn cynnwys amrywiaeth o ddarpariaethau atodol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer talu'r grant i'r person sy'n darparu'r addysg neu'r hyfforddiant ac ar gyfer y posibilrwydd o adennill, oddi wrth y person sy'n darparu'r addysg neu'r hyfforddiant neu oddi wrth y deiliad cyfrif dysgu unigol, y grant a dalwyd o dan rai amgylchiadau.

Yn rheoliad 10 ceir darpariaethau ar gyfer penderfynu ar breswylfa aelodau'r lluoedd arfog a Charcharorion a ddelir dan ddedfryd.