<akomaNtoso xmlns:uk="https://www.legislation.gov.uk/namespaces/UK-AKN" xmlns:ukl="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/legislation" xmlns:xsi="http://www.w3.org/2001/XMLSchema-instance" xmlns="http://docs.oasis-open.org/legaldocml/ns/akn/3.0" xsi:schemaLocation="http://docs.oasis-open.org/legaldocml/ns/akn/3.0 http://docs.oasis-open.org/legaldocml/akn-core/v1.0/cos01/part2-specs/schemas/akomantoso30.xsd"><act name="wsi"><meta><identification source="#"><FRBRWork><FRBRthis value="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2003/896"/><FRBRuri value="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2003/896"/><FRBRdate date="2003-03-26" name="made"/><FRBRauthor href="http://www.legislation.gov.uk/id/government/wales"/><FRBRcountry value="GB-WLS"/><FRBRsubtype value="regulation"/><FRBRnumber value="896"/><FRBRnumber value="Cy. 116"/><FRBRname value="S.I. 2003/896 (W. 116)"/><FRBRprescriptive value="true"/></FRBRWork><FRBRExpression><FRBRthis value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2003/896/made"/><FRBRuri value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2003/896/made"/><FRBRdate date="2003-03-26" name="made"/><FRBRauthor href="#"/><FRBRlanguage language="cym"/></FRBRExpression><FRBRManifestation><FRBRthis value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2003/896/made/data.akn"/><FRBRuri value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2003/896/made/data.akn"/><FRBRdate date="2026-10-11+01:00" name="transform"/><FRBRauthor href="http://www.legislation.gov.uk"/><FRBRformat value="application/akn+xml"/></FRBRManifestation></identification><lifecycle source="#"><eventRef refersTo="#made" date="2003-03-26" eId="date-made" source="#"/><eventRef refersTo="#coming-into-force" date="2003-04-01" eId="date-cif-1" source="#"/></lifecycle><analysis source="#"><otherAnalysis source=""/></analysis><references source="#"><TLCEvent eId="made" href="" showAs="Made"/><TLCEvent eId="cif" href="" showAs="ComingIntoForce"/><TLCRole eId="ref-d24e368" href="/ontology/role/uk.Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol" showAs="Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol"/><TLCPerson eId="ref-d24e366" href="/ontology/persons/uk.D.Elis-Thomas" showAs="D. Elis-Thomas"/></references><proprietary xmlns:ukm="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/metadata" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/" xmlns:dct="http://purl.org/dc/terms/" source="#"><dc:identifier>http://www.legislation.gov.uk/wsi/2003/896/made/welsh</dc:identifier><dc:title>Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003</dc:title><dc:language>cy</dc:language><dc:publisher>King's Printer of Acts of Parliament</dc:publisher><dc:modified>2011-07-05</dc:modified><dc:subject scheme="SIheading">GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU</dc:subject><dc:description>Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 fel y caiff darpariaethau newydd eu rhoi i reoliad 52 sy'n gwneud darpariaethau trosiannol. O dan y darpariaethau newydd:</dc:description><ukm:SecondaryMetadata><ukm:DocumentClassification><ukm:DocumentCategory Value="secondary"/><ukm:DocumentMainType Value="WelshStatutoryInstrument"/><ukm:DocumentStatus Value="final"/><ukm:DocumentMinorType Value="regulation"/></ukm:DocumentClassification><ukm:Year Value="2003"/><ukm:Number Value="896"/><ukm:AlternativeNumber Category="Cy" Value="116"/><ukm:Made Date="2003-03-26"/><ukm:ComingIntoForce><ukm:DateTime Date="2003-04-01"/></ukm:ComingIntoForce><ukm:ISBN Value="0110907027"/><ukm:UnappliedEffects><ukm:UnappliedEffect AffectedClass="WelshStatutoryInstrument" AffectedNumber="896" Row="107" Modified="2019-02-27T11:52:59Z" Type="revoked" AffectingNumber="237" EffectId="key-fad049f913d0f45683cbcac355cf7f51" AffectedProvisions="Regulations" AffectedURI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2003/896" AffectingURI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2019/237" AffectingClass="WelshStatutoryInstrument" AffectingProvisions="Sch. 2" URI="http://www.legislation.gov.uk/id/effect/key-fad049f913d0f45683cbcac355cf7f51" RequiresWelshApplied="true" RequiresApplied="true" AffectingEffectsExtent="E+W" AffectedYear="2003" AffectingYear="2019"><ukm:AffectedTitle>The Fostering Services (Wales) (Amendment) Regulations 2003</ukm:AffectedTitle><ukm:AffectedTitle xml:lang="cy">Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003</ukm:AffectedTitle><ukm:AffectedProvisions>Regulations</ukm:AffectedProvisions><ukm:AffectingTitle>The Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (Consequential Amendments to Secondary Legislation) Regulations 2019</ukm:AffectingTitle><ukm:AffectingTitle xml:lang="cy">Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2019</ukm:AffectingTitle><ukm:AffectingProvisions><ukm:Section Ref="schedule-2" URI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2019/237/schedule/2">Sch. 2</ukm:Section></ukm:AffectingProvisions><ukm:CommencementAuthority><ukm:Section Ref="regulation-1-2" URI="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2019/237/regulation/1/2">reg. 1(2)</ukm:Section></ukm:CommencementAuthority><ukm:InForceDates><ukm:InForce Applied="false" WelshApplied="false" Date="2019-04-29" Qualification="wholly in force"/></ukm:InForceDates></ukm:UnappliedEffect></ukm:UnappliedEffects></ukm:SecondaryMetadata><ukm:Alternatives><ukm:Alternative Date="2008-11-28" URI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2003/896/pdfs/wsi_20030896_mi.pdf" Title="Print Version Mixed Language" TitleWelsh="Fersiwn ddwyieithog wedi ei hargraffu" Size="114378" Language="Mixed"/></ukm:Alternatives><ukm:Statistics><ukm:TotalParagraphs Value="3"/><ukm:BodyParagraphs Value="3"/><ukm:ScheduleParagraphs Value="0"/><ukm:AttachmentParagraphs Value="0"/><ukm:TotalImages Value="0"/></ukm:Statistics></proprietary></meta><preface eId="preface"><block name="banner">Welsh Statutory Instruments</block><block name="number"><docNumber>2003 Rhif 896 (Cy.116)</docNumber></block><container name="subjects"><container name="subject"><block name="subject"><concept refersTo="#">GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU</concept></block></container></container><block name="title"><docTitle>Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003</docTitle></block><container name="dates"><block name="madeDate" refersTo="#date-made"><span>Wedi'u gwneud</span><docDate date="2003-03-26">26 Mawrth 2003</docDate></block><block name="commenceDate" refersTo="#date-cif-1"><span>Yn dod i rym</span><docDate date="2003-04-01">1 Ebrill 2003</docDate></block></container></preface><preamble><formula name="enactingText"><p>Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 22(1), (2)(a) i (c), (e) i (j), (6), (7)(a) i (h), (j), 25(1), 34(1), 35(1), 48(1), 118(5), (6) a (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000<authorialNote class="footnote" eId="f00001" marker="1"><p><ref eId="c00001" href="http://www.legislation.gov.uk/id/ukpga/2000/14">2000 p.14</ref>. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, sef yr “appropriate Minister”. Diffinnir yr “appropriate Minister” yn adran 121(1). Mae'n golygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru, ac mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.</p></authorialNote> ac adrannau 23(2)(a) a (9), 59(2) a 62(3) o Ddeddf Plant 1989<authorialNote class="footnote" eId="f00002" marker="2"><p><ref eId="c00002" href="http://www.legislation.gov.uk/id/ukpga/1989/41">1989 p.41</ref>.</p></authorialNote> a pharagraff 12 o Atodlen 2 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:</p></formula></preamble><body><hcontainer name="regulation" eId="regulation-1"><heading>Enwi, cychwyn a chymhwyso</heading><num>1.</num><paragraph eId="regulation-1-1"><num>(1)</num><content><p>Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003 yn union ar ôl i Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003<authorialNote class="footnote" eId="f00003" marker="3"><p><ref eId="c00003" href="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2003/237">O.S. 2003/237 (Cy.35)</ref>.</p></authorialNote> ddod i rym.</p></content></paragraph><paragraph eId="regulation-1-2"><num>(2)</num><content><p>Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.</p></content></paragraph></hcontainer><hcontainer name="regulation" eId="regulation-2"><heading>Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003</heading><num>2.</num><paragraph eId="regulation-2-1"><num>(1)</num><content><p>Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 yn cael eu diwygio yn unol â'r rheoliad hwn.</p></content></paragraph><paragraph eId="regulation-2-2"><num>(2)</num><content><p><mod>Yn lle rheoliad 52 (darpariaethau trosiannol) rhoddir y rheoliad canlynol<quotedStructure startQuote="“" endQuote="”" uk:context="unknown" uk:docName="unknown" ukl:TargetClass="unknown" ukl:TargetSubClass="unknown" ukl:Context="unknown" ukl:Format="default"><article><num>52.</num><paragraph><num>(1)</num><content><p>Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a oedd, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, naill ai'n rhedeg neu'n rheoli asiantaeth faethu ac sy'n parhau naill ai i'w rhedeg neu i'w rheoli.</p></content></paragraph><paragraph><num>(2)</num><intro><p>Ni fydd adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 yn gymwys i berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo (“person anghofrestredig”) —</p></intro><level class="para1"><num>(a)</num><content><p>os gwneir cais yn briodol am gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000, tan yr amser y caniateir y cais am gofrestru, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu</p></content></level><level class="para1"><num>(b)</num><intro><p>os caniateir y cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod—</p></intro><level class="para2"><num>(i)</num><content><p>os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r person hwnnw wedi dod i ben; neu</p></content></level><level class="para2"><num>(ii)</num><content><p>os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu</p></content></level></level><level class="para1"><num>(c)</num><content><p>tan 1 Gorffennaf 2003 yn achos person anghofrestredig nad yw'n gwneud cais yn unol ag is-baragraff (a).</p></content></level></paragraph><paragraph><num>(3)</num><intro><p>Mae'r paragraff hwn yn gymwys os —</p></intro><level class="para1"><num>(a)</num><content><p>yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud cais i ynad heddwch am orchymyn bod adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 yn gymwys i berson anghofrestredig ac y dylai paragraff (2) o'r rheoliad hwn beidio â bod yn gymwys i'r person anghofrestredig hwnnw; a</p></content></level><level class="para1"><num>(b)</num><content><p>yn nhyb yr ynad, os na wneir y gorchymyn y bydd perygl difrifol i fywyd, iechyd neu les rhywun.</p></content></level></paragraph><paragraph><num>(4)</num><intro><p>Os yw paragraff (3) yn gymwys—</p></intro><level class="para1"><num>(a)</num><content><p>caiff yr ynad wneud y gorchymyn y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw;</p></content></level><level class="para1"><num>(b)</num><content><p>bydd adran 11 o Ddeddf 2000 yn gymwys i'r person anghofrestredig, a bydd paragraff (2) o'r rheoliad hwn yn peidio â bod yn gymwys i'r person anghofrestredig, o'r amser pan wneir y gorchymyn.</p></content></level></paragraph><paragraph><num>(5)</num><content><p>Bydd adran 20(2), (4) a (5) o Ddeddf 2000 yn gymwys i unrhyw gais a wneir i ynad o dan baragraff (3), ac i unrhyw orchymyn a wneir o dan baragraff (4), fel petai'r cais neu'r gorchymyn (yn ôl y digwydd) wedi ei wneud o dan adran 20(1) o Ddeddf 2000 ac yn gymwys i'r person anghofrestredig.</p></content></paragraph><paragraph><num>(6)</num><content><p>Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu sy'n dod o dan adran 4(4)(b) o Ddeddf 2000 (corff gwirfoddol sy'n lleoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989) sy'n bodoli yn union cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym.</p></content></paragraph><paragraph><num>(7)</num><intro><p>Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaeth faethu y mae paragraff (6) yn gymwys iddi, fel petai unrhyw gyfeiriad ynddynt at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person sy'n rhedeg yr asiantaeth<authorialNote class="footnote" eId="f00004" marker="4"><p><i>Gweler</i> Adran 121(4) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.</p></authorialNote> —</p></intro><level class="para1"><num>(a)</num><content><p>os gwneir cais yn briodol am gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000, tan yr amser y caniateir y cais am gofrestru, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu</p></content></level><level class="para1"><num>(b)</num><intro><p>os caniateir y cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod—</p></intro><level class="para2"><num>(i)</num><content><p>os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r person hwnnw wedi dod i ben; neu</p></content></level><level class="para2"><num>(ii)</num><content><p>os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu</p></content></level></level><level class="para1"><num>(c)</num><content><p>tan 1 Gorffennaf 2003, os na wneir cais yn briodol yn unol ag is-baragraff (a).</p></content></level></paragraph><paragraph><num>(8)</num><content><p>Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol, sy'n bodoli yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.</p></content></paragraph><paragraph><num>(9)</num><intro><p>Os yw awdurdod lleol sy'n gofalu am blentyn wedi ei fodloni y dylai'r plentyn gael ei leoli gyda rhieni maeth, caiff wneud trefniadau, yn ddarostyngedig i baragraff (10), i'r dyletswyddau sy'n cael eu gosod arno gan reoliadau 34, 35, 36(1) a 37 gael eu cyflawni ar ei ran gan y corff gwirfoddol y mae paragraff (8) yn gymwys iddo (“darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig”)—</p></intro><level class="para1"><num>(a)</num><content><p>os gwneir cais yn briodol am gofrestru cyn 1 Gorffennaf 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000, tan yr amser y caniateir y cais am gofrestru, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y darparwr hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu</p></content></level><level class="para1"><num>(b)</num><intro><p>os caniateir cais a wnaed yn briodol yn unol ag is-baragraff (a) yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os yw'n cael ei wrthod—</p></intro><level class="para2"><num>(i)</num><content><p>os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r darparydd hwnnw wedi dod i ben; neu</p></content></level><level class="para2"><num>(ii)</num><content><p>os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng; neu</p></content></level></level><level class="para1"><num>(c)</num><content><p>tan 1 Gorffennaf, os na wneir cais yn briodol yn unol ag is-baragraff (a).</p></content></level></paragraph><paragraph><num>(10)</num><intro><p>Ni chaiff awdurdod lleol wneud trefniadau o dan baragraff (9) oni bai—</p></intro><level class="para1"><num>(a)</num><intro><p>ei fod wedi ei fodloni —</p></intro><level class="para2"><num>(i)</num><content><p>bod y darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig â'r gallu i gyflawni'r dyletswyddau ar ei ran; a</p></content></level><level class="para2"><num>(ii)</num><content><p>mai'r trefniadau hynny yw'r ffordd fwyaf addas o gyflawni'r dyletswyddau hynny; a</p></content></level></level><level class="para1"><num>(b)</num><content><p>ei fod wedi ymrwymo i gytundeb ysgrifenedig gyda'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig ynghylch y trefniadau, sy'n darparu ar gyfer ymgynghori a chyfnewid gwybodaeth ac adroddiadau rhwng yr awdurdod lleol a'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig.</p></content></level></paragraph><paragraph><num>(11)</num><content><p>Ni fydd rheoliad 20(5) yn gymwys i unrhyw berson y byddai'n gymwys iddo, ar wahân i'r rheoliad hwn, os yw'r person eisoes yn cael ei gyflogi ar 1 Ebrill 2003 gan ddarparydd gwasanaeth maethu mewn swydd y mae paragraff (6) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys iddi.</p></content></paragraph></article></quotedStructure></mod></p></content></paragraph></hcontainer><hcontainer name="signatures"><hcontainer name="signatureBlock"><content><p>Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998<authorialNote class="footnote" eId="f00005" marker="5"><p><ref eId="c00004" href="http://www.legislation.gov.uk/id/ukpga/1998/38">1998 p.38</ref>.</p></authorialNote></p><block name="signature"><signature refersTo="#">D. Elis-Thomas</signature></block><block name="role"><role refersTo="#">Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol</role></block><block name="date"><date date="2003-03-26">26 Mawrth 2003</date></block></content></hcontainer></hcontainer></body><conclusions><blockContainer class="explanatoryNote"><subheading>(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)</subheading><blockContainer ukl:Name="P"><p>Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 fel y caiff darpariaethau newydd eu rhoi i reoliad 52 sy'n gwneud darpariaethau trosiannol. O dan y darpariaethau newydd:</p></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P"><p>Mae rheoliad 52(1) — (5) yn gwneud darpariaeth ar gyfer personau sy'n parhau i redeg neu reoli asiantaeth faethu a oedd yn bodoli eisoes cyhyd â bod y ceisiadau am gofrestru'r asiantaeth honno wedi eu gwneud erbyn 1 Gorffennaf 2003.</p></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P"><p>Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i wasanaethau maethu awdurdodau lleol pan ddeuant i rym. Oherwydd rheoliad 52(6) a (7) byddant hefyd yn gymwys i gorff gwirfoddol a oedd yn bodoli eisoes sy'n parhau i leoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59 o Ddeddf Plant 1989 ac sy'n gwneud cais yn briodol am gael ei gofrestru erbyn 1 Gorffennaf 2003. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol tan iddi gael ei chofrestru, ond mae is-baragraffau (8) i (10) o'r rheoliad hwn yn galluogi awdurdod lleol i ddirprwyo dyletswyddau penodol i asiantaeth faethu annibynnol a oedd yn bodoli eisoes sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol ac sy'n gwneud cais yn briodol am gael ei chofrestru erbyn 1 Gorffennaf 2003. Mae rheoliad 52(11) yn datgymhwyso rheoliad 20(5) (sy'n cyfyngu'r amgylchiadau pan ganiateir person a gymeradwywyd fel rhiant maeth gan wasanaeth maethu hefyd i gael ei gyflogi i weithio dros y gwasanaeth) mewn rhai achosion.</p></blockContainer></blockContainer></conclusions></act></akomaNtoso>