Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 fel y caiff darpariaethau newydd eu rhoi i reoliad 52 sy'n gwneud darpariaethau trosiannol. O dan y darpariaethau newydd:
Mae rheoliad 52(1) — (5) yn gwneud darpariaeth ar gyfer personau sy'n parhau i redeg neu reoli asiantaeth faethu a oedd yn bodoli eisoes cyhyd â bod y ceisiadau am gofrestru'r asiantaeth honno wedi eu gwneud erbyn 1 Gorffennaf 2003.
Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i wasanaethau maethu awdurdodau lleol pan ddeuant i rym. Oherwydd rheoliad 52(6) a (7) byddant hefyd yn gymwys i gorff gwirfoddol a oedd yn bodoli eisoes sy'n parhau i leoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59 o Ddeddf Plant 1989 ac sy'n gwneud cais yn briodol am gael ei gofrestru erbyn 1 Gorffennaf 2003. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol tan iddi gael ei chofrestru, ond mae is-baragraffau (8) i (10) o'r rheoliad hwn yn galluogi awdurdod lleol i ddirprwyo dyletswyddau penodol i asiantaeth faethu annibynnol a oedd yn bodoli eisoes sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol ac sy'n gwneud cais yn briodol am gael ei chofrestru erbyn 1 Gorffennaf 2003. Mae rheoliad 52(11) yn datgymhwyso rheoliad 20(5) (sy'n cyfyngu'r amgylchiadau pan ganiateir person a gymeradwywyd fel rhiant maeth gan wasanaeth maethu hefyd i gael ei gyflogi i weithio dros y gwasanaeth) mewn rhai achosion.