xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
9.—(1) Yn ddarostyngedig i'r dyletswyddau a eithrir gan baragraff (2), at ddibenion adrannau 173, 175 a 176 o Ddeddf 1972 ystyr “dyletswydd wedi'i chymeradwyo” yw —
(a)unrhyw rai o'r dyletswyddau canlynol —
(i)presenoldeb mewn cyfarfod o'r awdurdod neu o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod neu o unrhyw gorff arall y mae'r awdurdod yn penodi neu'n enwebu iddo, neu o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o gorff o'r fath;
(ii)presenoldeb mewn unrhyw gyfarfod arall yr awdurdodir ei gynnal gan yr awdurdod, neu bwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod, neu gyd-bwyllgor o'r awdurdod ac un awdurdod arall neu fwy, neu is-bwyllgor o gyd-bwyllgor o'r fath, ar yr amod —
(aa)os yw'r awdurdod wedi'i rannu yn ddau grŵp gwleidyddol neu fwy, y mae'n gyfarfod y gwahoddwyd aelodau o ddau grŵp o'r fath o leiaf iddo, neu
(bb)os na rannwyd yr awdurdod yn y fath fodd, y mae'n gyfarfod y gwahoddwyd o leiaf ddau aelod o'r awdurdod iddo;
(iii)presenoldeb mewn cyfarfod o unrhyw gymdeithas o awdurdodau y mae'r awdurdod yn aelod ohono; a
(iv)presenoldeb mewn unrhyw ddigwyddiad hyfforddi neu ddatblygu a gymeradwywyd gan yr awdurdod.
(b)unrhyw ddyletswyddau yr ymgymerir â hwy ar ran yr awdurdod —
(i)yn unol ag unrhyw Reol Sefydlog sy'n ei gwneud yn ofynnol i aelod neu aelodau fod yn bresennol pan fydd dogfennau tendro yn cael eu hagor;
(ii)mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw swyddogaeth yr awdurdod a roddwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad ac sy'n rhoi'r pŵer i'r awdurdod, neu'n ei gwneud yn ofynnol iddo, archwilio neu awdurdodi archwiliad o dir ac adeiladau; ac
(c)unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd arall o ddosbarth a gymeradwyir felly, yr ymgymerir â hi at ddibenion cyflawni swyddogaethau'r awdurdod neu unrhyw un o'i bwyllgorau neu is-bwyllgorau, neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau o'r fath.
(2) Y dyletswyddau a eithrir gan y paragraff hwn yw'r dyletswyddau hynny y mae aelod yn derbyn tâl amdanynt heblaw o dan Ran II.