Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw cyngor cymuned;

ystyr “blwyddyn” (“year”) yw deuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

ystyr “Rheoliadau 1991” (“the 1991 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991 fel y'u diwygiwyd(1);

ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2001(2).

(1)

O.S. 1991/351, a ddiwygiwyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2781 (Cy.234)).