Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003

Lwfansau teithio a chynhaliaeth

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd gan aelod hawl i gael taliadau drwy lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth ar gyfraddau y penderfynir arnynt bob blwyddyn gan yr awdurdod pan fydd gwariant ar deithio neu gynhaliaeth yn cael ei dynnu o raid gan yr aelod hwnnw wrth iddo gyflawni dyletswydd wedi'i chymeradwyo fel aelod o'r awdurdod.

(2Ni fydd cyfraddau'r lwfans a benderfynir am flwyddyn o dan baragraff (1) ar gyfer teithio mewn car modur preifat yn fwy na chyfraddau'r lwfansau cyfatebol am y flwyddyn honno sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar yr amod, os bydd cyfradd unrhyw lwfans o'r fath ar y diwrnod yn union cyn y diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym eisoes yn fwy na chyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy am y flwyddyn honno i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, caiff cyfradd y lwfans hwnnw barhau ar y lefel honno ond ni chaiff ei chynyddu hyd nes y bydd cyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fwy na'r hyn a delir gan yr awdurdod.

(3Rhaid i dderbynebau priodol gyd-fynd ag unrhyw hawliad am daliad lwfansau teithio a chynhaliaeth yn unol â'r Rheoliadau hyn (gan eithrio hawliadau am deithio mewn cerbyd modur preifat) sy'n profi treuliau gwirioneddol, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu gyfyngiad y gall awdurdod benderfynu arnynt.

(4Ni fydd gan aelod yr hawl i unrhyw daliad o dan y Rheoliad hwn mewn perthynas â chyflawni, fel aelod o'r fath, ddyletswydd wedi'i chymeradwyo o fewn y gymuned, neu yn achos cymuned sy'n un o grŵ p o dan gyngor cymuned, o fewn ardal y grŵ p hwnnw.