- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
11.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd gan aelod hawl i gael taliadau drwy lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth ar gyfraddau y penderfynir arnynt bob blwyddyn gan yr awdurdod pan fydd gwariant ar deithio neu gynhaliaeth yn cael ei dynnu o raid gan yr aelod hwnnw wrth iddo gyflawni dyletswydd wedi'i chymeradwyo fel aelod o'r awdurdod.
(2) Ni fydd cyfraddau'r lwfans a benderfynir am flwyddyn o dan baragraff (1) ar gyfer teithio mewn car modur preifat yn fwy na chyfraddau'r lwfansau cyfatebol am y flwyddyn honno sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar yr amod, os bydd cyfradd unrhyw lwfans o'r fath ar y diwrnod yn union cyn y diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym eisoes yn fwy na chyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy am y flwyddyn honno i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, caiff cyfradd y lwfans hwnnw barhau ar y lefel honno ond ni chaiff ei chynyddu hyd nes y bydd cyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fwy na'r hyn a delir gan yr awdurdod.
(3) Rhaid i dderbynebau priodol gyd-fynd ag unrhyw hawliad am daliad lwfansau teithio a chynhaliaeth yn unol â'r Rheoliadau hyn (gan eithrio hawliadau am deithio mewn cerbyd modur preifat) sy'n profi treuliau gwirioneddol, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu gyfyngiad y gall awdurdod benderfynu arnynt.
(4) Ni fydd gan aelod yr hawl i unrhyw daliad o dan y Rheoliad hwn mewn perthynas â chyflawni, fel aelod o'r fath, ddyletswydd wedi'i chymeradwyo o fewn y gymuned, neu yn achos cymuned sy'n un o grŵ p o dan gyngor cymuned, o fewn ardal y grŵ p hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: