Mae adrannau 173, 175, 177 a 178 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) yn darparu pwerau, yn eu trefn, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud y canlynol:
rhagnodi swm mewn perthynas â lwfans presenoldeb neu lwfans colled ariannol sy'n daladwy am gyflawni dyletswydd wedi'i chymeradwyo;
rhagnodi corff y mae adran 175 (Lwfansau ar gyfer mynd i gynadleddau a chyfarfodydd) yn gymwys iddo;
pennu dyletswyddau mewn perthynas ag aelod corff at ddibenion diffinio “approved duty” yn adrannau 173 i 176 o Ddeddf 1972;
gwneud rheoliadau ynghylch y dull y mae adrannau 173 i 176 o Ddeddf 1972 i'w gweinyddu.
Mae'r pwerau hyn bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.
Mae adran 100 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, o ran lwfansau sy'n daladwy i aelodau o gynghorau cymuned a lwfansau teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy i aelodau awdurdodau y gall eu rhagnodi.
Mae Rheoliad 3 yn rhagnodi cynghorau cymuned yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1) o Ddeddf 2000.
Mae Rheoliad 5 yn rhagnodi £32.46 at ddibenion adran 173(1) o Ddeddf 1972 (Lwfans presenoldeb) fel y mwyafswm sy'n daladwy am unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na 24 awr ac yn cyfyngu nifer y taliadau hynny i un mewn unrhyw gyfnod o 24 awr.
Gwaherddir talu lwfans presenoldeb hefyd pan fo gan aelod yr hawl i lwfans colled ariannol (yn unol ag adran 173 o Ddeddf 1972) neu pan fyddai'r taliad hwnnw'n groes i unrhyw ddeddfiad.
Mae Rheoliad 6 yn rhagnodi symiau at ddibenion adran 173(4) o Ddeddf 1972 (Lwfans colled ariannol):
£30.05 am gyfnod nad yw'n fwy na phedair awr;
£60.11 am gyfnod sy'n fwy na phedair awr ond nad yw'n fwy na phedair awr ar hugain;
£60.11 plws y swm hwnnw sy'n daladwy o dan (a) neu (b) fel y bo'n briodol am gyfnod sy'n fwy na phedair awr ar hugain.
Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol (a hynny'n ddarostyngedig i Reoliadau 5 a 6) i awdurdodau wneud darpariaeth mewn perthynas â lwfansau o dan Ran II ar gyfer addasu'n flynyddol y lwfansau hynny (a fydd yn effeithiol o 1 Ebrill ym mhob blwyddyn) drwy gyfeirio at y ffigur a gyhoeddir ar gyfer y flwyddyn flaenorol yn y mynegai i'r Cyflog Cyfartalog i Wrywod Nad Ydynt yn Gweithio â Dwylo yn yr Archwiliad Enillion Newydd a gyhoeddir yn flynyddol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae Rheoliad 8 yn darparu i aelod ddewis peidio â derbyn unrhyw ran o'r hyn y mae ganddo hawl iddo o dan y Rheoliadau hyn.
Mae Rheoliad 9 yn nodi'r dyletswyddau hynny sy'n “ddyletswyddau wedi'u cymeradwyo” at ddibenion adrannau 173 i 176 o Ddeddf 1972.
Mae Rheoliad 10 yn gosod cyfyngiadau ariannol ar lwfansau o dan adran 175 o Ddeddf 1972 (lwfansau ar gyfer mynd i gynadleddau a chyfarfodydd) drwy gyfyngu ar yr uchafswm sy'n daladwy i £32.46 am unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na phedair awr ar hugain.
Mae Rheoliad 11 yn darparu ar gyfer talu costau teithio neu gynhaliaeth i aelodau, ar gyfraddau y penderfynir arnynt bob blwyddyn. Mae'r cyfraddau hynny i'w cysylltu â'r cyfraddau sy'n daladwy i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau na fyddant yn fwy na'r cyfraddau a geir gan Aelodau'r Cynulliad. Eithriad i hyn yw pan fo'r cyfraddau y mae awdurdod yn eu talu yn fwy, ar y diwrnod cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, na chyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mewn amgylchiadau o'r fath, caiff y cyfraddau a delir gan yr awdurdod barhau ar y lefel honno ond ni cheir eu cynyddu hyd nes y bydd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fwy na'r lwfans a delir gan yr awdurdod. Mae hawliadau teithio a chynhaliaeth (ac eithrio hawliadau sy'n berthnasol i deithio mewn cerbyd modur) i'w gwneud ar sail “wirioneddol” a rhaid bod derbynebau perthnasol yn cyd-fynd â hwy am y costau a dynnwyd, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu derfyn y penderfynir arnynt gan awdurdod. Ni all aelod hawlio lwfansau o dan Reoliad 11 pan gyflawnir unrhyw ddyletswydd wedi'i chymeradwyo o fewn eu cymuned neu ardal eu cyngor cymuned fel y bo'n briodol.
Mae Rheoliad 12 yn darparu bod datganiad i gyd-fynd â phob hawliad a wneir am lwfans presenoldeb, lwfans teithio, lwfans cynhaliaeth neu lwfans colled ariannol nad yw'r hawlydd wedi nac yn bwriadu gwneud unrhyw hawliad arall mewn perthynas â'r mater y mae'r hawliad yn berthnasol iddo. Mae hefyd yn atal taliadau o dan adran 176 o Ddeddf 1972 os gwneir taliadau o dan y Rheoliadau hyn.
Mae Rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod gadw cofnod o unrhyw daliadau a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn, gan roi manylion am y derbynnydd a natur y taliad. Dylai'r wybodaeth honno fod ar gael i'w harchwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol. Gellir cael copïau o'r wybodaeth drwy dalu ffi resymol i'r awdurdod.
Yn unol â Rheoliad 14, cyn gynted ag y bydd yn ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol rhaid i bob awdurdod gyhoeddi manylion o'r cyfanswm a dalwyd i bob aelod o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â lwfans presenoldeb a sylfaenol a lwfans colled ariannol.
Mae Rheoliad 15 yn darparu bod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991 (“Rheoliadau 1991”) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â hawliadau am ddyletswyddau a ddyddiwyd cyn 1 Ebrill 2003. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau penodol yn y Rheoliadau hyn dirymir Rheoliadau 1991 a 2001. Mae Rheoliad 15 yn datgymhwyso adran 174 o Ddeddf 1972 fel y mae'n gymwys i Gymru.