(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan adrannau 118(1), 120(1) a (3) a 121(1) a (9) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diddymu ac yn cymryd lle Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Datblygu Blynyddoedd Cynnar) (Cymru) 1999.
Maent yn rhagnodi at ddibenion y ddyletswydd o dan adran 118 o'r Ddeddf (y mae rhaid i awdurdod addysg lleol sicrhau darpariaeth ddigonol odani o ran addysg feithrin ar gyfer eu hardal), yr oedran isaf y mae'r ddyletswydd honno'n gymwys mewn perthynas ag ef (rheoliad 4).
Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth hefyd mewn cysylltiad â'r cynlluniau datblygu blynyddoedd cynnar a gofal plant y mae'n ofynnol i awdurdodau addysg lleol eu paratoi o dan adrannau 120 a 121 o'r Ddeddf. Cafodd y gofyn i'r cynlluniau yn ymdrin â gofal plant yn ogystal â datblygu blynyddoedd cynnar ei ychwanegu gan adran 150 o Ddeddf Addysg 2002.
Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi —
(a)y cyfnodau y mae'n rhaid paratoi cynlluniau datblygu blynyddoedd cynnar a gofal plant rhyngddynt, a'r dyddiadau erbyn pryd y mae'n rhaid i'r cynlluniau gael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gael eu cymeradwyo o dan adran 120(1) o'r Ddeddf (rheoliad 5);
(b)y cyfnododau y mae'n rhaid i gynigion yr awdurdod am addysg feithrin ymwneud â nhw, sef y cynigion ar gyfer cydymffurfio â'u dyletswydd o dan adran 118 o'r Ddeddf sydd wedi'u cynnwys mewn cynllun o'r fath (rheoliad 6(1) a (2));
(c)y materion y mae'n rhaid ymdrin â hwy mewn cynigion o'r fath (rheoliad 6(3) a'r Atodlen);
(ch)y cyfnod o fewn pryd y mae'n rhaid cyhoeddi cynlluniau (a chynlluniau wedi'u haddasu) (rheoliad 7(1));
(d)dull cyhoeddi cynlluniau o'r fath (rheoliad 7(2)); ac
(dd)y personau y mae'n rhaid anfon copi o gynllun o'r fath atynt, a'r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid darparu'r copiau hynny (rheoliad 7(3)).