Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
26 Mawrth 2003
Yn dod i rym
7 Ebrill 2003
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 7 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ragdybio o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 y bydd ar berson ei angen at anghenion personol y person hwnnw yw £17.80 yr wythnos.
3. Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2002(3) drwy hyn wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ei angen at eu hanghenion personol.
0 7 Ebrill 2003 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £17.80 yr wythnos at eu hanghenion personol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2002 sy'n cael eu dirymu.
1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ar gyfer y diffiniadau o “the Minister” a “prescribed” yn eu trefn, ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).