2003 Rhif 892 (Cy.112)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 19481 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2:—

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 7 Ebrill 2003.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Y swm y mae ei angen at anghenion personol2.

Y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ragdybio o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 y bydd ar berson ei angen at anghenion personol y person hwnnw yw £17.80 yr wythnos.

Diddymu3.

Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 20023 drwy hyn wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 4
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ei angen at eu hanghenion personol.

0 7 Ebrill 2003 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £17.80 yr wythnos at eu hanghenion personol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2002 sy'n cael eu dirymu.