- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
25 Mawrth 2003
Yn dod i rym
1 Mehefin 2003
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Mehefin 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeg mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;
ystyr “cyfran ysgol o'r gyllideb” (“school’s budget share”) yw cyfran ysgol o'r gyllideb o fewn ystyr adran 47(1) o Ddeddf 1998;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “datganiad alldro” (“outturn statement ”) yw'r datganiad y cyfeirir ato yn adran 52(2) o Ddeddf 1998;
ystyr “datganiad cyllideb” (“budget statement”) yw'r datganiad y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei gyhoeddi yn unol ag adran 52(1) o Ddeddf 1998 a Rheoliadau 2002;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002(3);
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sydd â'r Rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad sydd â'r Rhif hwnnw.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2000(4) yn cael eu dirymu.
(2) Er hynny, fe fydd y Rheoliadau hynny yn dal yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000 a chyn 1 Ebrill 2002.
4.—(1) Rhaid paratoi datganiad alldro yn Gymraeg ac yn Saesneg.
(2) Rhaid i ddatganiad alldro gynnwys pennawd ar frig y tudalen cyntaf yn nodi mai datganiad alldro ydyw, enw'r awdurdod y paratowyd y datganiad ganddo a'r flwyddyn ariannol y mae'n cyfeirio ati.
5.—(1) Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn datganiad alldro mewn perthynas â phob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod (wedi'i hadnabod yn ôl ei henw a'r Rhif cyfeirio swyddogol a ddyrannwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol), yw —
(a)swm cyfran yr ysgol o'r gyllideb am y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad yn cyfeirio ati ac a gynhwyswyd yn Rhan I o ddatganiad cyllideb yr awdurdod;
(b)manylion unrhyw godiadau neu ostyngiadau yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb o fewn y flwyddyn yn sgil unrhyw ailbenderfynu ar ei chyfran o'r gyllideb yn unol â rheoliad 19 o Reoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999(5);
(c)manylion unrhyw symiau a ddyrannwyd i'r ysgol nad ydynt yn dod o fewn is-baragraff (a) neu (b);
(ch)y cyfanswm a ddyrannwyd i'r ysgol gan yr awdurdod yn y flwyddyn ariannol honno;
(d)y balans a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn ariannol flaenorol mewn perthynas ag unrhyw ormodedd neu ddiffyg yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb mewn unrhyw flwyddyn ariannol flaenorol;
(dd)y swm sydd i'w gario ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf mewn perthynas ag unrhyw ormodedd neu ddiffyg yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb am y flwyddyn ariannol honno neu am unrhyw flwyddyn ariannol flaenorol;
(e)cyfanswm y gwariant a briodolwyd i'r ysgol, a geir drwy adio'r gwahaniaeth rhwng y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) a'r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd) i'r cyfanswm y trefnwyd ei fod ar gael i'r ysgol gan yr awdurdod;
(f)unrhyw swm a driniwyd gan yr awdurdod fe pe bai'n incwm a briodolwyd i'r ysgol (ac nad yw wedi'i adlewyrchu yn unrhyw un o'r symiau a bennwyd yn y datganiad alldro yn rhinwedd is-baragraff (a), (b), (c) neu (ch) uchod).
6. Rhaid i bob datganiad alldro gael ei gyhoeddi —
(a)drwy roi copi i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 7; a
(b)drwy drefnu bod copi ar gael i rieni a phersonau eraill gyfeirio ato ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl yn holl swyddfeydd addysg yr awdurdod.
7.—(1) Rhaid rhoi datganiad alldro i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy bost electronig neu ar ffurf data y gall peiriant ei ddarllen ar ddisg hyblyg a ddarperir at y diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i unrhyw iaith neu feddalwedd cyfrifiadur a ddefnyddir i ddarparu'r tablau fod yn un y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r awdurdod.
8. Rhaid i ddatganiad alldro gael ei gyhoeddi cyn y 1 Hydref nesaf yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae'n cyfeirio ati.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2000. Maent yn pennu'r wybodaeth am wariant yr awdurdodau addysg lleol (AALl) ar addysg y mae'n rhaid ei chynnwys mewn datganiad (y cyfeirir ato yn y rheoliadau fel “datganiad alldro”) y mae'n ofynnol i bob AALl ei baratoi ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol o dan adran 52(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (rheoliad 5).
Mae'r Rheoliadau hefyd yn pennu'r ffurf y mae'n rhaid i ddatganiadau alldro ei chymryd (rheoliad 4(1) a (2)) a dull ac amser cyhoeddi datganiadau o'r fath (rheoliadau 6-8)
Mae dau brif newid. Yn gyntaf, nid yw datganiad alldro bellach i gael ei baratoi mewn dwy ran. Y rheswm am y newid hwn yw nad oes gofyniad bellach yn y rheoliadau sy'n rhagnodi cynnwys datganiadau cyllideb i'r datganiadau hynny gynnwys gwybodaeth lefel AALl — gweler Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002. Yn sgil hynny, nid yw'r hyn a oedd yn Rhan I o'r datganiad alldro, a oedd yn ymdrin â gwariant gwirioneddol ar lefel AALl, bellach yn briodol. Yn ail, mae'r rheoliadau bellach yn darparu i'r datganiadau alldro gael eu paratoi yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Dirymir Rheoliadau 2000 (rheoliad 3).
1998 p. 31. Caiff adran 52 ei diwygio'n rhagolygol gan adran 45 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1) o Ddeddf 1998.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 52 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1999/101, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/911 (Cy. 40), 2001/495 (Cy. 22), 2002/136 (Cy.19) a 2003/538 (Cy.75).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: