(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 457 o Ddeddf Addysg 1996 yn gofyn bod gan ysgolion bolisi ar waith, ar gyfer peidio â chodi unrhyw dâl sydd fel arall yn daladwy mewn perthynas â bwyd a llety i ddsigyblion penodol ar deithiau preswyl. Mae'n rhaid bod y polisi peidio â chodi unrhyw dâl yn gymwys i ddisgybl y mae ei riant yn derbyn budd-dâl neu lwfans penodol, neu y mae ei riant â hawl i gredydau treth penodol, sydd wedi eu rhagnodi ar gyfer dibenion yr adran.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi at ddibenion adran 457 cymorth a ddarperir o dan Ran 6 o Ddeddf Llochesu a Mewnfudo 1999. Maent hefyd yn rhagnodi Gredyd Treth i Blant, ar y yr amod nad yw'r rhiant yn derbyn Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio, a bod y dyfarniad o credyd Treth i Blant wedi ei selio ar incwm blynyddal heb fod yn fwy n'ar swm a bennwyd at ddibenion adran 7(1)(a) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (sef 13,320 ar hyn o bryd).