2003 Rhif 860 (Cy.107)
Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enw, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2003.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn —
mae i “Credyd Treth i Blant” a “Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio” yr ystyr a roddir i “Child Tax Credit” a “Working Tax Credit” yn Neddf Credydau Treth 20023.
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996; ac
ystyr “incwm blynyddol” (“annual income”) yw yr incwm am y flwyddyn dreth sydd yn cael ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 20024).
Budd-dâl neu Lwfans Rhagnodedig3
Mae cymorth a ddarperir i riant o dan Ran 6 o Ddeddf Llochesu a Mewnfudo 19995 yn cael ei ragnodi ar gyfer dibenion adran 457(4)(b)(iii) o Ddeddf 1996.
Credydau Treth Rhagnodedig4
Rhagnodir Credyd Treth i Blant at ddibenion adran 457(4)(b)(iii) o Ddeddf 1996 o dan yr amgylchiadau canlynol:
a
pan fydd gan riant hawl i Gredyd Treth i Blant ond nid i Gredyd Treth i Bobl sy'n Gweithio, a
b
pan fod y rhiant yn derbyn Credyd Treth i Blant drwy rinwedd dyfarniad sydd wedi ei selio ar incwm blynyddol heb fod yn fwy na'r swm a bennwyd at ddibenion adran 7(1)(a) o Ddeddf Credydau Treth 2002 fel trothwy incwm ar gyfer Credyd Treth i Blant6.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)