Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003
Enwi, cychwyn, cymhwyso ac effaith1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3)
Diwygio paragraff 8A yn Atodlen 12.
Diwygir paragraff 8A yn Atodlen 1 (Cwynion) yn unol â'r paragraffau canlynol—
(a)
ym mharagraff 7(b)(ii) yn lle'r gair “three”, rhodder y gair “two”; a
(b)
ym mharagraph (7)(c) yn lle'r ffigur “10”, rhodder y ffigur “20”.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“y prif Reoliadau”) sy'n rheoleiddio'r telerau ynghylch darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae Rheoliad 2 yn cynnwys darpariaethau sy'n diwygio'r cyfnod o amser sydd gan gontractwyr, fel y diffinnir hwy yn y prif Reoliadau, i ymateb i gwynion a wneir gan neu ar ran cleifion neu gleifion blaenorol. Caiff yr amser a ganiateir i gontractwyr gydnabod cwynion yn ffurfiol ei leihau o dri diwrnod i ddau ddiwrnod (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc), tra caiff yr amser a ganiateir i roi i achwynydd grynodeb ysgrifenedig o ymchwiliadau a chasgliadau ei gynyddu o 10 i 20 diwrnod gwaith (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc).