Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 832 (Cy.104)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

21 Mawrth 2003

Yn dod i rym

24 Mawrth 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd yn awr wedi'u breinio ynddo(2), ac yntau wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn gosod gweithdrefnau mewn materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a fu gynt yn arferadwy gan “yr Ysgrifennydd Gwladol” i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) o'i ddarllen gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.