Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan baragraff 22(1) o Atodlen 5B i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1977 p.49) ac adran 126(1) a (4) o'r Ddeddf honno, fel y'i diwygiwyd gan adrannau 6(1), (2) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) ac Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i drosglwyddo, i Fwrdd Iechyd Lleol, a hynny drwy orchymyn, unrhyw gyflogeion unrhyw Awdurdod Iechyd neu ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, sy'n ateb y disgrifiad penodedig.

Mae'r Gorchymyn yn trosglwyddo (erthygl 3) staff y pum Awdurdod Iechyd yng Nghymru a sefydlwyd gan Orchymyn Sefydlu Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996 (OS 1996/146), ac eithrio'r staff hynny a drosglwyddir o dan Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/813, (Cy.98)), i'r Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, (Cy.18)). Mae'r Gorchymyn hefyd yn trosglwyddo (erthygl 4) staff Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 1992 (O.S. 1992/2741) i Fwrdd Iechyd Lleol Powys. Os caiff unrhyw staff sy'n cael eu trosglwyddo i Fyrddau Iechyd Lleol o dan erthyglau 3 neu 4 eu diswyddo yn ystod y cyfnod o 12 mis yn dilyn y dyddiad trosglwyddo, byddant yn cael eu trosglwyddo (erthygl 5) i'r Cynllun Cyflogaeth Estynedig. Drwy'r Cynllun hwn gwneir ymdrech i gael swydd iddynt gydag un o gyflogwyr eraill y gwasanaeth iechyd neu gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn unol â'r gofynion ym mharagraff 22(3) o Atodlen 5B gwneir y Gorchymyn hwn yn sgil cydymffurfio ag unrhyw ofynion a ragnodwyd ynghylch ymgynghori mewn perthynas â phob un o'r cyflogeion a drosglwyddir. Mae'r darpariaethau ym mharagraffau 23, 24 a 25 o Atodlen 5B, i'r graddau y maent yn berthnasol, yn gymwys i'r cyflogeion a drosglwyddir o dan y Gorchymyn hwn.