2003 Rhif 817 (Cy.102)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Diddymu) 2003
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771 ac adran 5(1), a pharagraff 29(1) yn Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19902, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru3, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau'n ei hystyried hi'n briodol er budd y gwasanaeth iechyd i wneud y Gorchymyn hwn4), ac ar ôl cyfnod ymgynghori a ragnodwyd o dan baragraff 29(3) o Atodlen 2 i'r Ddeddf hon5, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Teitl a chychwyn1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Diddymu) 2003.
(2)
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003.
Diddymu Ymddiriedolaeth GIG2.
Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 19926, ac yn unol â hynny dirymir drwy hyn y Gorchymyn hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987
D.Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu ar 1 Ebrill 2003 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd ar 16 Tachwedd 1992.