(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)
O dan adran 27(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38), mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i drosglwyddo iddo'i hun drwy orchymyn unrhyw un o swyddogaethau awdurdod iechyd Cymreig neu'r cyfan ohonynt. O dan adran 27(5)(a) o Ddeddf 1998, pan fo gorchymyn yn darparu ar gyfer trosglwyddo holl swyddogaethau awdurdod iechyd ar gyfer yr ardal gyfan y mae'r awdurdod hwnnw yn gweithredu mewn perthynas â hi, gall y Cynulliad ddiddymu'r awdurdod hwnnw.
O dan adran 27(8) o Ddeddf 1998, caiff y Cynulliad wneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau awdurdod iechyd Cymreig.
Roedd y ddogfen strategaeth “Gwella Iechyd yng Nghymru” a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fis Chwefror 2001 yn dynodi'r bwriad i ddiddymu'r pum awdurdod iechyd a oedd eisoes yn bodoli yng Nghymru o 31 Mawrth 2003 ymlaen, ac i ddirprwyo eu swyddogaethau i Fyrddau Iechyd Lleol.
Mae'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo holl swyddogaethau'r pum awdurdod iechyd Cymreig i'r Cynulliad, ac yn diddymu'r pum awdurdod. Mae hefyd yn effeithio ar drosglwyddo staff penodol a gyflogir gan yr awdurdodau iechyd naill ai'n uniongyrchol i'r Cynulliad, neu o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig (“EES”) i Fwrdd Iechyd Lleol Powys. Yn ystod y cyfnod o 12 mis ar ôl y dyddiad trosglwyddo, gellir trosglwyddo'r staff hynny a drosglwyddodd i Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig ond na chawsant gyflogaeth arall, i swyddi mewn Bwrdd Iechyd Lleol neu yn y Cynulliad os cynigir swydd iddynt ac maent yn ei derbyn.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru unrhyw eiddo, hawliau a rhwymedigaethau nas trosglwyddwyd yn benodol i Fyrddau Iechyd Lleol.
Bydd y swyddogaethau a drosglwyddir i'r Cynulliad o dan y Gorchymyn hwn (yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau) yn cael eu dirprwyo i Fyrddau Iechyd Lleol gan reoliadau a wnaed o dan adran 16BB o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1977 p.49), fel y cafodd ei mewnosod gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynolion Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17). Am gwmpas y swyddogaethau a ddirprwywyd i Fyrddau Iechyd Lleol, gweler Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150, Cy.20).
Caiff Byrddau Iechyd Lleol eu sefydlu o dan orchymyn a wneir o dan adran 16BA o Ddeddf 1977, fel y'i mewnosodwyd gan adran 6 o Ddeddf 2002 (gweler Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18).