2. Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “cyflogai Cynllun Cyflogaeth Estynedig” (“EES employee”) yw person y cafodd ei gontract cyflogaeth ei drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys(1) o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig yn unol ag erthygl 5;
ystyr “Cynllun Cyflogaeth Estynedig” (“Extended Employment Scheme”) yw cynllun sy'n darparu i Fwrdd Iechyd Lleol Powys gyflogi, am gyfnod heb fod yn fwy na 12 mis gan ddechrau ar y dyddiad trosglwyddo, bersonau y mae eu contractau cyflogaeth yn cael eu trosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys yn unol ag erthygl 5;
ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw person —
y mae ei gontract cyflogaeth gydag awdurdod iechyd Cymreig heb gael ei derfynu cyn y dyddiad trosglwyddo (boed wrth i rybudd ddod i ben, treigl amser neu fel arall); a
a gafodd gynnig cyflogaeth ac a'i derbyniodd cyn y dyddiad trosglwyddo gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “cyflogai gweddilliol” (“residual employee”) yw person —
y mae ei gontract cyflogaeth gydag awdurdod iechyd Cymreig heb gael ei derfynu cyn y dyddiad trosglwyddo (boed wrth i rybudd ddod i ben, treigl amser neu fel arall); a
na chafodd gynnig cyflogaeth neu na dderbyniodd gyflogaeth cyn y dyddiad trosglwyddo gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru neu unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol(2) (heblaw gan Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig).
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2003; ac
ystyr “awdurdod iechyd Cymreig” (“Welsh health authority”) yw awdurdod iechyd a sefydlwyd gan Orchymyn Sefydlu yr Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996(3), ac a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Powys drwy orchymyn o dan adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) — gweler Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu)(Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18).
Sefydlir Byrddau Iechyd Lleol drwy orchymyn o dan adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) — gweler Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18).