(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 sy'n rheoleiddio'r telerau ynghylch darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae Rheoliad 2 yn cynnwys darpariaethau sy'n diwygio'r cyfnod o amser sydd gan feddygon i ymateb i gwynion a wneir gan neu ar ran cleifion neu gleifion blaenorol o dan drefn gwyno'r practis. Caiff yr amser a ganiateir i feddygon gydnabod cwynion ar lafar neu'n ysgrifenedig ei leihau o dri diwrnod i ddau ddiwrnod (gan eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc), tra caiff yr amser a ganiateir i roi i achwynydd grynodeb ysgrifenedig o ymchwiliadau a chasgliadau ei gynyddu o 10 i 20 diwrnod gwaith (gan eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc).