2003 Rhif 784 (Cy.95)
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso ac effaith1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
3
Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 19922 yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.
Diwygio paragraff 47A yn Atodlen 22
Diwygir paragraff 47A o Atodlen 2 (Cwynion) yn unol â'r paragraffau canlynol —
a
ym mharagraff 6(b)(ii) yn lle'r gair “three”, rhodder y gair “two”; a
b
ym mharagraph (6)(c) yn lle'r ffigur “10”, rhodder y ffigur “20”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)