- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
18 Mawrth 2003
Yn dod i rym
1 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992(2) yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.
2. Diwygir paragraff 47A o Atodlen 2 (Cwynion) yn unol â'r paragraffau canlynol —
(a)ym mharagraff 6(b)(ii) yn lle'r gair “three”, rhodder y gair “two”; a
(b)ym mharagraph (6)(c) yn lle'r ffigur “10”, rhodder y ffigur “20”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
18 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 sy'n rheoleiddio'r telerau ynghylch darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae Rheoliad 2 yn cynnwys darpariaethau sy'n diwygio'r cyfnod o amser sydd gan feddygon i ymateb i gwynion a wneir gan neu ar ran cleifion neu gleifion blaenorol o dan drefn gwyno'r practis. Caiff yr amser a ganiateir i feddygon gydnabod cwynion ar lafar neu'n ysgrifenedig ei leihau o dri diwrnod i ddau ddiwrnod (gan eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc), tra caiff yr amser a ganiateir i roi i achwynydd grynodeb ysgrifenedig o ymchwiliadau a chasgliadau ei gynyddu o 10 i 20 diwrnod gwaith (gan eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc).
1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”) adran 26(2)(g) a (i), i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Diwygiwyd adran 29(1) gan O.S. 1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), adran 2(1), Atodlen 1, paragaff 18; gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17) (“Deddf 2002”), adrannau 2(5) a 37(1), Atodlen 2, Rhan 1, paragraffau 1, 3(1)(2) a 3(a)(b), Atodlen 8, paragraffau 1 a 2; gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), adran 41(10), (12), Atodlen 2, paragraff 8 ac Atodlen 3, Rhan 1; Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41), adran 14, Atodlen 6, paragraffau 2(1) a (2); gan Ddeddf y Gwasanaethu Iechyd 1980 (p.53), adran 7; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) (“Deddf 2001”), adran 23(1) a (2); Deddf Feddygol 1983 (p.54) adran 56(1), Atodlen 5, paragraff 16(a), a Deddf Feddygol (Perfformiad Proffesiynol) 1995 (p.51) adran 4, Atodlen 1, paragraff 28(b).
Diwygiwyd Adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); gan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), adran 65(1), Atodlen 4, paragraffau 4, 37(1) a 6; gan Ddeddf 2001, adran 67(1), Atodlen 5, Rhan 1, paragraffau 5(1) a 13(b) a chan Ddeddf 2002, adran 6(3)(c).
O ran Cymru, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29 a 126(4), o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo, O.S. 1999/672.
O.S. 1992/635, yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1996/702 sy'n mewnosod paragraffau 47A a B yn Atodlen 2.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: