Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol Cyffredinol) 1992 sy'n rheoleiddio'r telerau ynghylch darparu gwasanaethau fferyllol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliad 2 yn cynnwys darpariaethau sy'n diwygio'r cyfnod o amser sydd gan fferyllwyr i ymateb i gwynion a wneir gan neu ar ran unrhyw berson y maent wedi rhoi gwasanaeth fferyllol iddo. Caiff yr amser a ganiateir i fferyllwyr gydnabod cwynion yn ffurfiol ei leihau o dri diwrnod i ddau ddiwrnod (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc), tra caiff yr amser a ganiateir i roi i achwynydd grynodeb ysgrifenedig o ymchwiliadau a chasgliadau ei gynyddu o 10 i 20 diwrnod gwaith (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc).