2003 Rhif 782 (Cy.93)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso ac effaith1.

(1)

Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gynwys i Gymru yn unig.

(3)

Diwygir yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 19922 yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Diwygio paragraff 31A yn Atodlen 12.

Diwygir paragraff 31A o Atodlen 1 (Cwynion) yn unol â'r paragraffau canlynol —

(a)

ym mharagraff 6(b)(ii) yn lle'r gair “three”, rhodder y gair “two”; a

(b)

ym mharagraph (6)(c) yn lle'r ffigur “10”, rhodder y ffigur “20”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.
D.Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 sy'n rheoleiddio'r telerau ynghylch darparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliad 2 yn cynnwys darpariaethau sy'n diwygio'r cyfnod o amser sydd gan ddeintyddion i ymateb i gwynion a wneir gan neu ar ran cleifion neu gleifion blaenorol o dan drefn gwyno'r practis. Caiff yr amser a ganiateir i ddeintyddion gydnabod cwynion yn ffurfiol ei leihau o dri diwrnod i ddau ddiwrnod (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc), tra caiff yr amser a ganiateir i roi i achwynydd grynodeb ysgrifenedig o ymchwiliadau a chasgliadau ei gynyddu o 10 i 20 diwrnod gwaith (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc).