Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 sy'n rheoleiddio'r telerau ynghylch darparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliad 2 yn cynnwys darpariaethau sy'n diwygio'r cyfnod o amser sydd gan ddeintyddion i ymateb i gwynion a wneir gan neu ar ran cleifion neu gleifion blaenorol o dan drefn gwyno'r practis. Caiff yr amser a ganiateir i ddeintyddion gydnabod cwynion yn ffurfiol ei leihau o dri diwrnod i ddau ddiwrnod (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc), tra caiff yr amser a ganiateir i roi i achwynydd grynodeb ysgrifenedig o ymchwiliadau a chasgliadau ei gynyddu o 10 i 20 diwrnod gwaith (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc).