xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5.—(1) Rhaid i berson beidio â rhedeg canolfan breswyl i deuluoedd oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i redeg canolfan breswyl i deuluoedd oni bai fod y person —
(a)yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
(b)yn gorff ac —
(i)bod y corff wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol” yn y corff sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y ganolfan breswyl i deuluoedd; a
(ii)bod yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r gofynion —
(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd;
(b)bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd; ac
(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r unigolyn.
(i)mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2:
(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;
(iii)ac ymhellach, os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig ar wiriad ar y rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(1) a rheoliadau a wneir o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(2).
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os oes unigolyn wedi gwneud cais am y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i rhoi.
(5) Nid yw person yn ffit i redeg canolfan breswyl i deuluoedd —
(a)os yw'r person hwnnw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystad ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu nac wedi'i ddileu; neu
(b)os yw wedi cyfamodi neu wedi trefnu gyda'i gredydwyr, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.
6.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i redeg canolfan breswyl i deuluoedd —
(a)os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd; a
(b)os yw'r darparydd cofrestredig —
(i)yn gorff;
(ii)heb fod yn berson ffit i reoli canolfan breswyl i deuluoedd; neu
(iii)yn berson nad yw'r ganolfan breswyl i deuluoedd o dan ei ofal amser llawn o ddydd i ddydd neu nad yw'r bwriad iddo fod o dan ei ofal felly.
(2) Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd, rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith —
(a)o enw'r person a benodwyd felly; a
(b)o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod yn effeithiol.
7.—(1) Rhaid i berson beidio â rheoli canolfan breswyl i deuluoedd oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli canolfan breswyl i deuluoedd oni bai —
(a)bod y person yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd;
(b)o roi sylw i faint y ganolfan breswyl i deuluoedd, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y trigolion —
(i)bod gan y person y cymwysterau, y medrau a'r profiad y mae eu hangen i reoli'r ganolfan; a
(ii)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud hynny;
(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person —
(i)mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;
(ii)os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;
(iii)ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig ar wiriad ar y rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(3) a rheoliadau a wneir o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(4).
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os oes unigolyn wedi gwneud cais am y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i rhoi.
8.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i faint y ganolfan breswyl i deuluoedd, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y trigolion redeg y ganolfan neu ei rheoli (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.
(2) Os yw'r darparydd cofrestredig —
(a)yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu
(b)os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd.
(3) Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r medrau y mae eu hangen i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd.
9. Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith —
(a)o ddyddiad a man y collfarniad;
(b)o'r tramgwydd y cafodd ei gollfarnu o'i herwydd; ac
(c)o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.