Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer y cymwysterau a fydd yn ofynnol i berson eu cael ar gyfer rheoli gweithgareddau a awdurdodir gan drwydded rheoli gwastraff, er mwyn i ddeiliad y drwydded gael ei gydnabod fel person addas a phriodol yn unol ag adran 74 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43).
Mae'r cymwysterau a gydnabyddir at ddibenion adran 74 yn cael eu trin gan reoliad 4(5)(b) o Reoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973) fel rhai a gydnabyddir at ddibenion trwyddedau ar gyfer gweithgaredd rheoli gwastraff a roddwyd yn unol â'r Rheoliadau hynny. Mae'r trwyddedau hyn yn cynnwys trwyddedau tirlenwi a roddir yn unol â Rheoliadau Tirlenwi (Cymru a Lloegr) 2002 (O.S. 2002/1559).
Rhoddir y cymwysterau gan Fwrdd Hyfforddi a Chynghori'r Diwydiant Rheoli Gwastraff (WAMITAB), Peterbridge House, 3, The Lakes, Northampton, NN4 7HE (Ffôn: 01604 231950, Ffacs: 01604 232457, Ebost: info.admin@wamitab.org.uk, Gwefan: www.wamitab.org.uk).
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli rheoliad 4 o Reoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994 (O.S. 1994/1056 (“y prif Reoliadau”), fel y'u hestynnir gan O.S. 1996/234 ac O.S. 1997/2203) a thrwy hynny yn cydnabod y newidiadau yn system tystysgrifau WAMITAB a fydd yn effeithiol o 1 Ebrill 2003 (rheoliad 5).
Mae'r rheoliadau hefyd yn ychwanegu paragraff (8) newydd at reoliad 5 (cymhwysedd technegol — darpariaethau trosiannol) o'r prif Reoliadau (rheoliad 7). Mae hyn yn galluogi person sydd, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn dechnegol gymwys o ran un math o gyfleuster (p'un a yw'r person hwnnw yn rheoli cyfleuster o'r math hwnnw ai peidio) i aros yn dechnegol gymwys o ran cyfleusterau o'r math hwnnw tan 31 Mawrth 2005.
Cyflwynir Atodlen 1A newydd i'r prif Reoliadau, sy'n nodi'r cyfleusterau y mae'n ofynnol dal tystysgrifau WAMITAB er mwyn eu rheoli a'r ystod priodol o dystysgrifau ar gyfer pob math o gyfleuster (rheoliad 8 a'r Atodlen).
Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio rheoliad 1(3) o Reoliadau 1994 i ddarparu diffiniad o “scrap metal dealer” (rheoliad 3).