- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
12 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. 17 Mawrth 2003 yw'r dydd penodedig pan fydd adran 13 o Ddeddf 2001 yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn pennu mai 17 Mawrth 2003 yw'r dyddiad y mae adran 13 o Ddeddf 2001 i ddod i rym mewn perthynas â Chymru. Mae adran 13 o'r Ddeddf yn ymwneud â gorchmynion ymyrryd ac yn mewnosod adrannau newydd 84A a B yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Bydd adran 13, pan fydd wedi ei chychwyn, yn galluogi'r Cynulliad i ymyrryd mewn categorïau penodol o gyrff GIG pan fydd ganddo bryderon ynghylch rheolaeth y corff hwnnw, ynghylch ei allu i gyflawni ei swyddogaethau'n ddigon da neu pan fydd trychineb unigryw wedi digwydd.
Bydd adran 84A yn galluogi'r Cynulliad i wneud gorchymyn ymyrryd pan nad yw corff GIG y mae'r adran yn ymwneud ag ef yn cyflawni un neu fwy o'i swyddogaethau yn ddigon da neu pan nad yw'n eu cyflawni o gwbl, neu pan fo diffygion sylweddol yn y modd y rheolir y corff. Cyn gwneud gorchymyn ymyrryd bydd yn rhaid i'r Cynulliad fod wedi'i fodloni ei bod yn briodol iddo wneud hynny.
Mae adran 84B yn nodi effaith gorchymyn ymyrryd ynghyd â'r gwahanol ffurfiau ar ymyrraeth. Gall gorchymyn ymyrryd ddarparu ar gyfer symud neu wahardd dros dro aelodau o'r corff GIG dan sylw a phenodi unigolion newydd yn eu lle; mynnu bod corff GIG yn gwneud trefniadau i berson neu gorff arall gyflawni swyddogaethau'r corff hwnnw; datgymhwyso neu addasu unrhyw ddarpariaeth ddeddfwriaethol sy'n gysylltiedig ag aelodaeth neu weithdrefn y corff sy'n destun yr ymyrraeth, a gall gynnwys cyfarwyddiadau i roi effaith lawn i ymyrraeth.
Mae darpariaethau canlynol Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
| Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
|---|---|---|
| Adran 3 | 1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) | 2002/1475 |
| Adran 5 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 11 | 1 Rhagfyr 2002 | 2002/1475 |
| Adran 16 | 26 Awst 2002 | 2002/1919 |
| Adran 19 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 20 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 21 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 22 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 23 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 24 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 25 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 26 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 27 | 26 Awst 2002 | 2002/1919 |
| Adran 28 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 29 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 30 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 31 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 32 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 33 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 34 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 35 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 36 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 37 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 38 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 39 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 41 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 42 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 43 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Adran 49 | 3 Rhagfyr 2001 (yn rhannol) | 2001/3807 |
| Adran 50 | 8 Ebrill 2002 (yn rhannol) 19 Rhagfyr 2001 (gweddill) | 2001/3752 a 2001/3807 |
| Adran 51 | 8 Tachwedd 2001 | 2001/3752 |
| Adran 52 | 8 Tachwedd 2001 | 2001/3752 |
| Adran 67 | 1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) | 2002/1475 |
| Atodlen 2 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Atodlen 3 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1475 |
| Atodlen 5 | 1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) | 2002/1475 |
| Atodlen 6 | 1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) | 2002/1475 |
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2001 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O. S. 2001/2804 (p.95), O.S. 2001/3167 (p.101), O.S. 2001/3294 (p.107), O.S. 2001/3619 (p.117), O.S. 2001/3752 (p.122), O.S. 2001/3738 (p.121), O.S. 2001/4149 (p.133), O.S. 2002/1095 (p.26) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1170 (p.30)), O.S. 2002/1312 (p.36) ac O.S. 2002/2363 (p.77).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: