Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) 1992 yn diffinio'r ymadrodd “youth training trainee” drwy gyfeirio at “approved training scheme” fel y'i diffinnir yn adran 28(6)(c) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

Er hynny, cafodd adran 28(6)(c) o Ddeddf 1992 ei diddymu gan adran 41(5) o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995 (“Deddf 1995”) ac Atodlen 3 iddi fel rhan o'r newid o'r gyfundrefn “Budd-dâl Diweithdra” i'r gyfundrefn “Lwfans Ceisio Gwaith” a wnaed gan Ddeddf 1995.

Yn sgil hynny, mae'r Gorchymyn hwn yn ailddiffinio'r ymadrodd “youth training scheme” yn ôl yr ymadrodd “training scheme” fel y'i diffinnir yn rheoliad 75(1)(b) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996.