Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (fel y'u diwygiwyd) yn rhagnodi'r pwerau y caiff awdurdodau lleol eu defnyddio i gasglu ac adennill treth gyngor. Mae Rheoliad 32(1) o'r Rheoliadau hynny yn cael ei ddiwygio yn y fath fodd ag i hepgor o'r diffiniad o “earnings” Gredyd Treth Plant a Chredyd Treth Gweithio, o fewn ystyr “Child Tax Credit” a “Working Tax Credit” yn Neddf Credydau Treth 2002.