Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2003
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.
2.
3.
Caiff rheoliad 2 ei ddiwygio drwy—
(a)
“mae i “asiant” (“agent”) yr ystyr a roddir gan adran 15A o Ddeddf 19984;” a
(b)
amnewid y geiriau “rheoliad 8” yn lle'r geiriau “rheoliadau 8 a 28” ym mharagraff (5).
4.
Diwygir rheoliad 8 drwy—
(a)
mewnosod y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (1A)” ar ddechrau paragraff (1);
(b)
“(1A)
Rhaid i Bwyllgor sy'n delio ag achos yn erbyn person sy'n aelod o'r Cyngor gynnwys un neu fwy aelod lleyg ac un neu fwy aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig, ond ni ddylai gynnwys aelod o'r Cyngor.”;
(c)
mewnosod y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (3A)” ar ddechrau paragraff (3); a
(ch)
“(3A)
Y cworwm ar gyfer cyfarfod o Bwyllgor sy'n delio ag achos yn erbyn person sy'n aelod o'r Cyngor fydd tri aelod, gan gynnwys un aelod lleyg ac un aelod sy'n athro neu'n athrawes gofrestredig.”.
5.
Diwygir rheoliad 9 drwy—
(a)
“(b)
bod y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn dymuno ystyried yr achos gyda'r bwriad o arfer ei bwerau o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 20025—(i)
ar y seiliau bod person yn anaddas i weithio â phlant, neu
(ii)
ar seiliau sy'n ymwneud â chamymddygiad neu iechyd person,
oherwydd bod y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried bod yr achos yn ymwneud â diogelwch a lles person dan 18 oed.”; a
(b)
6.
Diwygir Rheoliad 18 drwy—
(a)
“(3)
Rhaid i orchymyn atal, yn ychwanegol at yr eitemau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1), bennu—
(a)
unrhyw amodau y dylai'r athro neu'r athrawes gydymffurfio â hwy cyn y gall fod yn gymwys unwaith eto ar gyfer cofrestru; a
(b)
y cyfnod (nad yw'n fwy na dwy flynedd) pan ddaw'r athro neu'r athrawes unwaith eto yn gymwys ar gyfer cofrestru ar ei ddiwedd (yn ddarostyngedig i gydymffurfio ag unrhyw amodau)”;
(b)
“(va)
os gorchymyn atal sy'n pennu amodau yw'r gorchymyn, esboniad o hawl y person i wneud cais am amrywio neu ddiddymu amod a bennwyd yn y gorchymyn a'r dull ar gyfer gwneud cais o'r fath, a”; ac
(c)
mewnosod ym mharagraff (6)(b) ar ôl y geiriau “gyflogwr presennol neu ddiwethaf” y geiriau “a, lle bo hynny'n berthnasol, asiant”.
7.
“Cais i amrywio neu neilltuo amod mewn gorchymyn atal21A.
(1)
Gall person y mae gorchymyn atal wedi'i wneud mewn perthynas ag ef wneud cais i'r Cyngor i amrywio neu ddiddymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.
(2)
Rhaid i gais o dan baragraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig a phennu ar ba sail y mae'r person yn gofyn amrywio neu ddiddymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn, a chyda'r cais rhaid anfon pob dogfen y dibynnir arni i ategu'r cais.
(3)
Os cafodd gorchymyn atal y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.
(4)
Os cafodd gorchymyn atal y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1) ei wneud gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol, rhaid i'r cais gael ei benderfynu gan Bwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol arall y mae'n rhaid iddo beidio â chynnwys fel aelod unrhyw berson a fu'n aelod o'r Pwyllgor a wnaeth y gorchymyn y cwynir yn ei erbyn.”.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 ('Rheoliadau 2001'). Mae Rheoliadau 2001 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau disgyblu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, sef corff corfforaethol a sefydlwyd o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 gyda'r nodau o gyfrannu tuag at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu a chynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon er budd y cyhoedd.
Mae rheoliad 8 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn darparu bod rhaid i'r Pwyllgor a fydd yn delio ag achos yn erbyn aelod o'r Cyngor beidio â chynnwys aelod arall o'r Cyngor ac i ddarparu ar gyfer y cworwm ar gyfer cyfarfod Pwyllgor o'r fath.
Mae rheoliad 9 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn cyfeirio at y pwerau newydd i roi cyfarwyddyd yn Neddf Addysg 2002 ac er mwyn cyfeirio at Reoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003.
Mae Deddf Addysg 2002 yn cyflwyno pwer i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru osod amodau ar unrhyw orchmynion atal y mae'n eu gwneud yn dilyn achos disgyblu yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2001 er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol i orchymyn atal gofnodi unrhyw amodau y mae angen i athro neu athrawes gydymffurfio â hwy, ac i'w gwneud hi'n ofynnol i Bwyllgor gynnwys yn yr hysbysiad o'r gorchymyn disgyblu a gyflwynwyd i athro neu athrawes esboniad o'r hawl i wneud cais i amrywio neu ddiddymu amod, a sut i wneud hynny. Gwneir darpariaeth hefyd mewn perthynas â'r dull o wneud cais i amrywio neu ddiddymu amod, a sut yr eir ati i ddelio â cheisiadau o'r fath.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn ychwanegu asiantaeth gyflenwi lle bo hynny'n berthnasol at y rhai y mae'n ofynnol cyflwyno hysbysiad o orchymyn disgyblu iddynt.