Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 ('Rheoliadau 2001'). Mae Rheoliadau 2001 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau disgyblu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, sef corff corfforaethol a sefydlwyd o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 gyda'r nodau o gyfrannu tuag at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu a chynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon er budd y cyhoedd.
Mae rheoliad 8 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn darparu bod rhaid i'r Pwyllgor a fydd yn delio ag achos yn erbyn aelod o'r Cyngor beidio â chynnwys aelod arall o'r Cyngor ac i ddarparu ar gyfer y cworwm ar gyfer cyfarfod Pwyllgor o'r fath.
Mae rheoliad 9 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn cyfeirio at y pwerau newydd i roi cyfarwyddyd yn Neddf Addysg 2002 ac er mwyn cyfeirio at Reoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003.
Mae Deddf Addysg 2002 yn cyflwyno pwer i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru osod amodau ar unrhyw orchmynion atal y mae'n eu gwneud yn dilyn achos disgyblu yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2001 er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol i orchymyn atal gofnodi unrhyw amodau y mae angen i athro neu athrawes gydymffurfio â hwy, ac i'w gwneud hi'n ofynnol i Bwyllgor gynnwys yn yr hysbysiad o'r gorchymyn disgyblu a gyflwynwyd i athro neu athrawes esboniad o'r hawl i wneud cais i amrywio neu ddiddymu amod, a sut i wneud hynny. Gwneir darpariaeth hefyd mewn perthynas â'r dull o wneud cais i amrywio neu ddiddymu amod, a sut yr eir ati i ddelio â cheisiadau o'r fath.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn ychwanegu asiantaeth gyflenwi lle bo hynny'n berthnasol at y rhai y mae'n ofynnol cyflwyno hysbysiad o orchymyn disgyblu iddynt.